Coedwig Gwydyr
Math | coedwig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.126°N 3.828°W |
Coedwig yn Sir Conwy yng ngogledd Cymru yw Coedwig Gwydir, hefyd Coed Gwydir, a weithiau wedi'i chamsillafu Coedwig Gwydyr. "Coedwig Gwydir" yw'r ffurf a ddefnyddir gan y perchenogion, Comisiwn Coedwigaeth Cymru.
Mae'r rhan fwyaf o'r goedwig ar lechweddau dwyreiniol Eryri, o gwmpas Betws-y-coed, ac mae'n ymestyn i'r gogledd cyn belled a phentref Trefriw ac i'r de i gyffiniau Penmachno. O'r arwynebedd o 72.5 km sgwar, mae tua 49 km sgwar yn goedwig gynhyrchiol. Mae rhwng 700 a 1000 o droedfeddi uwch lefel y môr. Dechreuwyd plannu'r goedwig yn 1921, a cheir nifer o rywogaethau o goed bytholwyrdd yno.
Llynnoedd
Ceir cryn nifer o lynnoedd yn y goedwig:
- Llyn Crafnant (63 acer)
- Llyn Geirionydd (45 acer)
- Llyn Elsi (26 acer)
- Llyn Parc (22 acer)
- Llyn Glangors (15 acer)
- Llyn Bodgynydd (14 acer)
- Llyn Goddionduon (10 acer)
- Llyn Pencraig (5 acer)
- Llyn Bychan (3 acer)
- Llyn Sarnau (3 acer)
- Llyn Tynymynydd (1 acer)
Hanes a natur
Ar un adeg roedd cryn dipyn o fwyngloddio am Blwm a sinc yn yr ardal, ac mae gweddillion nifer o'r hen fwyngloddiau i'w gweld. Crwwyd "Llwybr y Mwynwyr" i gysylltu pedair ohonynt, Parc. Hafna, Llanrwst a Cyffty.
Ceir nifer o blanhigion prin yn y fforest, yn enwedig o gwmpas yr hen fwyngloddiau, ac mae hefyd dystiolaeth fod y Bele yn dal i fyw yn y goedwig.
Gwydir
Ceir sawl ffurf ar yr enw 'Gwydir', yn cynnwys 'Gwydyr' a 'Gwyder'. Nid yw'r ansicrwydd am y ffurf gywir yn rhywbeth newydd. Ar ddiwedd llythyr at Ieuan Fardd a ysgrifennwyd yn 1767, mae'r hynafiaethydd Richard Morris (1703 - 1779), un o Forysiaid Môn, yn dweud "Rhowch fy ngharedigol orchymyn at y Cyfaill mwyn Mr. Williams o Wedyr ynte Gwydyr, Gwydir, Gwydr, Gwaedir, Gwaederw etc. etc. Pa un yw'r goreu?".[1]
Gweler hefyd
Llyfryddiaeth
- Donald L. Shaw, Gwydyr Forest in Snowdonia: a History, Forestry Commission Booklet 28 (HMSO, 1971)
Cyfeiriadau
- ↑ Hugh Owen (gol.), Additional Letters of the Morrisses of Anglesey (1735-1786), Cyfrol II (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Llundain, 1949).