Ynysoedd Riau
Gwedd
Ynysoedd oddi ar arfordir gorllewinol ynys Sumatera ac un o daleithiau Indonesia yw Ynysoedd Riau (Indoneseg: Kepuluan Riau. Hyd 2004, roedd Ynysoedd Riau yn rhan o dalaith Riau, ond fe'i gwahanwyd y flwyddyn honno. Ymysg yr ynysoedd mae Batam, Bintan a Karimun, heb fod ymhell o arfordir Singapore, sy'n ffurfio Ardal Economaidd Arbennig.
Roedd y boblogaeth yn 802,000 yn 2000. Y brifddinas yw Tanjung Pinang. Ar un adeg, roedd yr ynysoedd yn enwog fel noddfa i forladron.