Eglwys Sant Twrog, Maentwrog
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Maentwrog |
Sir | Maentwrog |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 5 metr |
Cyfesurynnau | 52.9456°N 3.9895°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Cysegrwyd i | Twrog |
Manylion | |
Deunydd | gwenithfaen |
Eglwys ym mhentref Maentwrog, ym mhlwyf Bro Moelwyn yw Eglwys Sant Twrog sydd yn Nyffryn Ffestiniog, ym Mharc Cenedlaethol Eryri (Cyfeirnod grid: SH6641440544). Bu yma eglwys ers y 6g, a honno wedi'i sefydlu gan Twrog a oedd yn fab i Ithel Hael o Lydaw. Cofrestrwyd yr adeilad gan Cadw yn Chwefror 2005 fel Gradd II.[1] Fe'i codwyd yn 1896, fel y tystia'r dyddiad ar ran o'r fondo ar seiliau eglwys cynharach, a godwyd yn 1814; bu yma eglwys cyn hynny a godwyd yn yr Oesoedd Canol. Defnyddiwyd cerrig yr eglwys wreiddiol yn yr eglwysi a'i dilynnodd.[2]
Mae enw’r pentre'n cyfeirio at 'garreg' (neu 'faen') Twrog. Dywed hanes lleol i gawr o'r enw Twrog daflu conglfaen o gopa'r Moelwyn, gan ddinistrio allor baganaidd a safai yma. Me'r maen yn dal i fod yno, ger cornel yr eglwys, a dywedir bod ôl dwylo Twrog arni. Cyfeirir at y maen hwn yn y Mabinogi fel 'Maen Tyriawg uwch y Felenrhyd', sef man claddu Pryderi.
Credir bod y dair ywen yn y fynwent dros 1300 oed. Mae'r gwaith coed yn y to a'r nenfwd yn hynod o gain, a cheir sawl colofn bren wedi'i chrefio'n gywrain. Ceir rhai cofebau nodedig sy'n dyddio i ddechrau'r 18g. Roedd gan yr eglwys hon gysylltiad cryf gyda Phlas Tan y Bwlch.
Twrog
Credir ei fod yn fab i Ithel Hael ac yn frawd i Tanwg o Landanwg, Tegai o Landegai a Baglan o Lanfaglan.[3] Ceir dwy eglwys arall wedi'u cysegru i Twrog: Bodwrog ar ynys Môn a Llandwrog ger Caernarfon.
-
Yr eglwys o'r pentref
-
Tu fewn yr eglwys i gyfeiriad y cefn.
-
Hen ywen yn y fynwent
-
Maen neu garreg Twrog
-
Y gofer o'r fondo, gyda'r dyddiad 1896
Cyfeiriadau
- ↑ www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 2015
- ↑ www.coflein.gov.uk; adalwyd 2015
- ↑ Enwogion Cymru gan Robert Williams, Llanymddyfri, 1852. URL: http://books.google.co.uk/books?id=_wMGAAAAQAAJ