Neidio i'r cynnwys

Benazir Bhutto

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:05, 4 Mai 2008 gan PipepBot (sgwrs | cyfraniadau)
Benazir Bhutto

Gwleidydd o Bacistan oedd Benazir Bhutto (21 Mehefin 1953, Karachi - 27 Rhagfyr 2007, Rawalpindi). Bhutto oedd y ddynes gyntaf erioed i gael ei hethol i arwain gwlad Fwslimaidd yn y cyfnod ôl-drefedigaethol. Cafodd ei hethol yn Brif Weinidog Pacistan ddwywaith. Y tro cyntaf oedd yn 1988 ond cafodd ei orfodi i adael ei swydd ar ôl 20 mis dan orchymyn yr arlywydd ar y pryd Ghulam Ishaq Khan ar ôl cael ei chyhuddo o fod yn llwgr. Yn 1993 cafodd Bhutto ei ethol yn Brif Weinidog am yr ail dro ond cafodd ei symud o'r swydd ar yr un cyhuddiadau unwaith yn rhagor, yn 1996, gan yr Arlywydd Farooq Leghari.

Aeth Bhutto yn alltud gwirfoddol yn Dubai yn 1998, lle arosodd nes iddi ddychwelyd i Bacistan ar 19 Hydref, 2007, ar ôl dod i gytundeb dadleuol gyda'r Cadfridog Musharraf a roddwyd iddi amnest a dileu pob cyhuddiad o lygredd.

Yr oedd Benazir Bhutto yn blentyn hynaf Zulfikar Ali Bhutto, cyn arweinydd Pacistan, o dalaith Sindh, a Begum Nusrat Bhutto, merch Bacistanaidd o dras Iranaidd a Chyrdaidd. Ei thaid ar ochr ei thad oedd Syr Shah Nawaz Bhutto a ddaeth i Larkana Sindh cyn ymraniad is-gyfandir India o'i dref enedigol Bhatto Kalan (yn nhalaith Indiaidd Haryana heddiw).

Cafodd Benazir Bhutto ei asasineiddio ar 27 Rhagfyr, 2007, mewn ymosodiad terfysgol ar ôl rali gan ei phlaid, Plaid Pobl Pakistan, yn Rawalpindi. Cafodd ei saethu gan yr ymosodwr a chwythodd i hun i fyny wedyn gan ladd tuag 20 o bobl eraill. Bu Benazir farw yn yr ysbyty am 1320 UTC.

Llyfrau Benazir Bhutto

  • Benazir Bhutto, (1983), Pakistan: The gathering storm, Vikas Pub. House, ISBN 0706924959
  • Benazir Bhutto (1989), Daughter of the East, Hamish Hamilton. ISBN 0-241-12398-4
  • Benazir Bhutto (1989), Daughter of Destiny: An Autobiography. Simon & Schuster. ISBN 0-671-66983-4

Llyfrau am Benazir Bhutto

  • W.F.Pepper, (1983), Benazir Bhutto, WF Pepper, ISBN 0946781001
  • Rafiq Zakaria (1990), The Trial of Benazir, Sangam Books. ISBN 0-861-32265-7
  • Katherine M. Doherty, Caraig A. Doherty , (1990), Benazir Bhutto (Impact Biographies Series), Franklin Watts, ISBN 0531109364
  • Rafiq Zakaria, (1991), The Trial of Benazir Bhutto: An Insight into the Status of Women in Islam, Eureka Pubns, ISBN 9679783200
  • Diane Sansevere-Dreher, (1991), Benazir Bhutto (Cyfres Changing Our World), Bantam Books (Mm), ISBN 0553158570
  • Christina Lamb, (1992), Waiting for Allah, Penguin Books, ISBN 0140143343
  • M. Fathers, (1992), Biography of Benazir Bhutto, W.H. Allen / Virgin Books, ISBN 024554965X
  • Elizabeth Bouchard, (1994), Benazir Bhutto: Prime Minister (Library of Famous Women), Blackbirch Pr Inc, ISBN 1567110274
  • Iqbal Akhund, (2000), Trial and Error: The Advent and Eclipse of Benazir Bhutto, OUP Pakistan, ISBN 0195791606
  • Libby Hughes, (2000), Benazir Bhutto: From Prison to Prime Minister, Backinprint.Com, ISBN 0595003885
  • Mercedes Anderson, (2004), Benazir Bhutto (Cyfres Women in Politics), Chelsea House Publishers, ISBN 0791077322
  • Mary Englar, (2007), Benazir Bhutto: Pakistani Prime Minister and Activist, Compass Point Books, ISBN 0756517982
Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato