Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
Ym 1801, cyfunodd Teyrnas Prydain Fawr â Theyrnas Iwerddon (o dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o 1169 hyd 1603) i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.
Nodweddir hanes y deyrnas gan dwf yr Ymerodraeth Brydeinig, a gyrhaeddodd ei hanterth yn oes y frenhines Victoria. Y ffactor bwysicaf yn hanes mewnol y deyrnas efallai oedd y galwadau cynnyddol am ymreolaeth neu hunanreolaeth i Iwerddon, Cymru a'r Alban. Arweiniodd hyn yn y pen draw at sefydlu Saorstat Eireann a rhwygo'r wladwriaeth a'i hailenwi. Prin y ceir blwyddyn yn hanes y deyrnas na welwyd ei lluoedd arfog yn ymladd rhywle yn y byd, e.e. y Rhyfeloedd Napoleonaidd, Rhyfel Crimea, Rhyfel y Boer a'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Brenhinoedd a breninesau Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
Dyma restr o frenhinoedd a breninesau'r deyrnas Unedig o 1801 hyd 1927.
- Siôr III (1760-1820), ŵyr Siôr II, brenin Prydain Fawr
- Siôr IV (1820-1830), mab Siôr III
- William IV (1830-1837), brawd Siôr IV
- Victoria (1837-1901), nith William IV
- Edward VII (1901-1910), mab Victoria
- Siôr V (1910-1936) mab Edward VII