Neidio i'r cynnwys

Eglwys Sant Twrog, Maentwrog

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:40, 9 Medi 2015 gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)

Cyfesurynnau: 52°56′44″N 3°59′22″W / 52.94560°N 3.98950°W / 52.94560; -3.98950

Eglwys Sant Twrog

Eglwys ym mhentref Maentwrog, ym mhlwyf Bro Moelwyn yw Eglwys Sant Twrog sydd yn Nyffryn Ffestiniog, ym Mharc Cenedlaethol Eryri (Cyfeirnod grid: SH6641440544). Bu yma eglwys ers y 6ed ganrif, a honno wedi'i sefydlu gan Twrog a oedd yn fab i Ithel Hael o Lydaw. Cofrestrwyd yr adeilad gan Cadw yn Chwefror 2005 fel Gradd II.[1] Fe'i codwyd yn 1896, fel y tystia'r dyddiad ar ran o'r fondo.

Mae enw’r pentre'n cyfeirio at 'garreg' (neu 'faen') Twrog. Dywed hanes lleol i gawr o'r enw Twrog daflu conglfaen o gopa'r Moelwyn, gan ddinistrio allor baganaidd a safai yma. Me'r maen yn dal i fod yno, ger cornel yr eglwys, a dywedir bod ôl dwylo Twrog arni. Cyfeirir at y maen hwn yn y Mabinogi fel 'Maen Tyriawg uwch y Felenrhyd', sef man claddu Pryderi.

Credir bod y dair ywen yn y fynwent dros 1300 oed. Mae'r gwaith coed yn y to a'r nenfwd yn hynod o gain, a cheir sawl colofn bren wedi'i chrefio'n gywrain. Ceir rhai cofebau nodedig sy'n dyddio i ddechrau'r 18fed ganrif. Roedd gan yr eglwys hon gysylltiad cryf gyda Phlas Tan y bwlch.

Twrog

Credir ei fod yn fab i Ithel Hael ac yn frawd i Tanwg o Landanwg, Tegai o Landegai a Baglan o Lanfaglan.[2] Ceir dwy eglwys arall wedi'u cysegru i Twrog: Bodwrog ar ynys Môn a Llandwrog ger Caernarfon.

Cyfeiriadau

  1. www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 2015
  2. Enwogion Cymru gan Robert Williams, Llanymddyfri, 1852. URL: http://books.google.co.uk/books?id=_wMGAAAAQAAJ
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Dolennau allanol