Eglwys Sant Twrog, Maentwrog
Cyfesurynnau: 52°56′44″N 3°59′22″W / 52.94560°N 3.98950°W
Eglwys ym mhentref Maentwrog, ym mhlwyf Bro Moelwyn yw Eglwys Sant Twrog sydd yn Nyffryn Ffestiniog, ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Bu yma eglwys ers y 6ed ganrif, a honno wedi'i sefydlu gan Twrog a oedd yn fab i Ithel Hael o Lydaw.
Mae enw’r pentre'n cyfeirio at 'garreg' (neu 'faen') Twrog. Dywed hanes lleol i gawr o'r enw Twrog daflu conglfaen a ddinistriodd allor baganaidd. Me’r maen yn dal i fod yno, a dywedir bod ôl dwylo Twrog arni. Credir bod y coed yw yn y fynwent yn 1300 oed.
Twrog
Credir ei fod yn fab i Ithel Hael ac yn frawd i Tanwg o Landanwg, Tegai o Landegai a Baglan o Lanfaglan.[1] Ceir dwy eglwys arall wedi'u cysegru i Twrog: Bodwrog ar ynys Môn a Llandwrog ger Caernarfon.
Cyfeiriadau
- ↑ Enwogion Cymru gan Robert Williams, Llanymddyfri, 1852. URL: http://books.google.co.uk/books?id=_wMGAAAAQAAJ