Timimoun
Gwedd
Tref a gwerddon yn ne Algeria yw Timimoun (Arabeg: تميمون), yn Nhalaith Adrar, rhanbarth Gourara. Fe'i lleolir yn y Sahara ar ymyl llwyfandir Tadmaït, uwchben y Sebkha.
Ceir gwerddon ffrwythlon yno a hen gastell (ksar). Nodweddir Timimoun gan liw ocr coch ei hadeiladau traddodiadol.
Gwasanaethir y dref a'r ardal gan Faes Awyr Timimoun.
Dolenni allanol
- (Ffrangeg) Gwybodaeth am Timimoun a Gourara