Wicipedia:Geirfa
Gwedd
Mae'r dudalen yma yn eirfa o dermau a ddefnyddir ar Wicipedia. Am fwy o gymorth, gweler Wicipedia:Cymorth a Wicipedia:Cwestiynau poblogaidd.
Gweler hefyd:
- Geirfa Saesneg-Cymraeg o dermau cyfrifiadurol.
DS: Er hwyluso croes-gyfeirio, rhoddir y term Saesneg cyfatebol mewn cromfachau ac yn fach ar ôl y term Cymraeg.
A
- Archif (Archive)
- Is-dudalen i dudalen sgwrs yw archif. Symudir y sgyrsiau hynaf ar y dudalen sgwrs i'r archif er mwyn lleihau maint y dudalen sgwrs.
- Gweler hefyd: en:Help:How to archive a talk page.
- Archwilio defnyddwyr (Check user)
- Mae'r archwilwyr defnyddwyr yn ddefnyddwyr sydd â'r gallu i weld cyfeiriadau IP defnyddwyr mewngofnodedig, yn bennaf er mwyn gwarchod prosiectau Wikimedia rhag fandaliaeth. Mae gan Stiwardiaid y gallu hwn ac fe'i roddir i rai defnyddwyr ar brosiectau unigol.
- Gweler hefyd: meta:Checkuser
B
- Babel (Babel)
- Mae'r system Babel ar brosiectau Wikimedia yn hwyluso cyfathrebu rhwng defnyddwyr trwy gofnodi galluoedd ieithyddol y defnyddwyr hynny sydd am gyhoeddi'r wybodaeth hon.
- Gweler hefyd: en:Wikipedia:Babel.
- Biwrocrat (Bureaucrat)
- Mae biwrocrat yn weinyddwr sydd yn gallu rhoi pwerau gweinyddwr i ddefnyddiwr, newid enwau defnyddwyr, a galluogi cyfrifon bot.
- Gweler hefyd: en:Wikipedia:Administrators#Bureaucrat a'r rhestr Galluoedd Grwpiau Defnyddwyr.
- Bot (Bot)
- Rhaglen sy'n ychwanegu tudalennau neu yn eu golygu, yn awtomatig neu'n lled-awtomatig.
- Gweler hefyd: en:Wikipedia:Bot a'r rhestr Galluoedd Grwpiau Defnyddwyr.
C
- Y Caffi (Village Pump)
- Prif fforwm cymuned Wicipedia, lle cyhoeddir a thrafodir cynigion, newidiadau polisïau, problemau technegol a materion mewnol eraill o flaen cynulleidfa fwy na cheir ar dudalen sgwrs tudalen benodol.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Y Caffi.
- Cyfnewid unwaith-ac-am-byth (Substitution)
- Wrth gyfnewid unwaith-ac-am-byth, mae'r meddalwedd, wrth roi tudalen ar gadw, yn cyfnewid cystrawen wici am ddarn o destun, a hynny unwaith ac am byth. O osod "subst:" cyn enw nodyn, bydd y wici yn copïo cynnwys y nodyn i'r dudalen wrth ei chadw, a hynny unwaith ac am byth. Ni fydd y nodyn yn cael ei gopïo o'r newydd trwy'r broses trawsgynnwys bob tro y bydd rhywun yn cyrchu'r dudalen.
- Gweler en:Help:Substitution a m:Help:Substitution am eglurhad pellach.
- Cyfrif cydwici (Global account)
- Math o gyfrif sy'n galluogi defnyddiwr i fewngofnodi i bob wici led-led Sefydliad Wikimedia ar unwaith.
- Gweler hefyd m:Help:Unified login
- Cyfuno (Merge)
- Cyfuno dwy dudalen i'w gwneud yn un tudalen.
- Gweler hefyd Wikipedia:Help:Merging and moving pages
- Cystrawen wici (Wiki markup)
- Côd sy'n debyg i HTML, ond yn symlach ac yn haws ei drin, e.e. '''cryf''' yn lle <b>cryf</b>. Cystrawen wici yw'r côd ffynhonnell a roddir ar gadw yn y gronfa ddata, ac a ddangosir yn y bocs golygu.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Sut i olygu tudalen a Wicipedia:Enghreifftiau cystrawen wici.
D
- Datblygwr (Developer)
- Mae datblygwr yn gallu newid meddalwedd Mediawiki (gan gynnwys Wicipedia) a'r bas data yn uniongyrchol. Yr oedd y Gweinyddwyr System ar Sefydliad Wikimedia yn arfer cael eu galw yn Ddatblygwyr hefyd.
- Gweler hefyd Developers.
- Dolen fewnol (Internal link)
- Dolen sy'n arwain at dudalen arall yn y wici hwn neu un o'n chwaer-brosiectau, sy'n defnyddio'r gystrawen wici "[[Teitl y dudalen|testun yn ôl y gofyn]]". Fel arfer, mae wiciddolen i erthygl sy'n bodoli'n barod yn las, neu'n goch os nad yw'r dudalen ar gael eto, neu'n borffor os ydy'r dudalen ar gael a'ch bod wedi ymweld â hi eisoes. Termau eraill arno: dolen wici, cyswllt mewnol.
- Dolen doredig (Broken link)
- Dolen fewnol i dudalen nad yw'n bod. Mae dolen doredig (neu gyswllt toredig') fel arfer yn goch.
E
- Eginyn (Stub)
- Erthygl sydd gan amlaf yn un baragraff byr neu'n llai, ac felly'n erthygl sydd angen ei hehangu.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Eginyn.
- Erthygl (Article)
- Cofnod gwyddoniadurol. Mae pob erthygl yn dudalen, ond nid yw pob tudalen yn erthygl, e.e. nid erthygl yw'r dudalen hon.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Beth ydy erthygl.
- en:
- Byrfodd fersiwn Saesneg Wicipedia. Felly gyda ieithoedd eraill hefyd, fel "de" = fersiwn Almaeneg Wicipedia ayyb. Defnyddir y rhain fel rhagddodiad mewn cysylltiadau rhyngwici. Ceir rhestr llawn o'r Wicipediau a'u byrfoddau ar meta.
G
- Galluoedd defnyddwyr (User rights)
- Mae gwahanol alluoedd gan grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr Wicipedia, e.e. Gweinyddwyr, Biwrocratiaid.
- Gweler hefyd: mw:Manual:User_rights a'r rhestr Galluoedd Grwpiau Defnyddwyr.
- Goruchwylio (Oversight)
- Gallu gweinyddol yw goruchwylio sy'n galluogi 'Goruchwylwyr' i ddileu diwygiadau o hanes tudalen. Defnyddir y gallu yma i ddileu gwybodaeth bersonol breifat, gwybodaeth a allai fod yn enllibus, ac mewn achosion o dor-hawlfraint. Mae gan stiwardiaid yr hawl hwn. Mae rhai prosiectau Wikimedia yn penodi Goruchwylwyr ar gyfer y prosiect hwnnw, ond nid oes gan Wicipedia Oruchwylwyr penodedig.
- Gweler hefyd: meta:Oversight.
- Gwahaniaethu (Disambiguation)
- Y broses o ddatrys y broblem a godir pan mae gan erthygl dau bwnc neu fwy gyda'r un teitl naturiol.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Gwahaniaethu a Thudalen wahaniaethu.
- Gwedd (Skin)
- Gosodiad yn "fy newisiadau" yw gwedd sy'n pennu ymddangosiad y wici. Ar hyn o bryd, mae wyth gwedd ar gael: MonoBook (y rhagosodyn), Chick, Hiraeth, Modern, Glas Cwlen, Simple, MySkin, a Safonol.
- Gweinyddwr (Admin, Administrator, Sysop)
- Defnyddiwr a chanddo alluoedd technegol ychwanegol er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ar Wicipedia – gan gynnwys dileu a diogelu tudalennau, a rhwystro defnyddwyr.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Gweinyddwyr a'r rhestr Galluoedd Grwpiau Defnyddwyr.
- Gweinyddwr y System (System Administrator)
- Mae Gweinyddwyr y System yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar weinyddion Sefydliad Wikimedia. Pan ddechreuodd Wikimedia y datblygwyr oedd yn gwneud y gwaith hwn.
- Gweler hefyd: m:System administrators
- Gwybodlen (Infobox)
- Nodyn sydd yn dabl a fformatir gyda chystrawen wici, sydd i'w gweld mewn erthyglau gyda phwnc cyffredin, ac sy'n rhoi gwybodaeth sylfaenol am bwnc yr erthygl.
- Gweler hefyd: Cymorth:Gwybodlen a Wicipedia:Rhestr gwybodlenni.
H
- Hanes (History)
- Yr holl ddiwygiadau i dudalen yw ei hanes. Enwau eraill arni yw hanes y dudalen neu weithiau hynt y dudalen. Gallwch weld hanes tudalen trwy wasgu ar y tab 'Gweld yr hanes' neu 'hanes', e.e. hanes y dudalen Tannatt William Edgeworth David.
I
- Is-dudalen (Subpage)
- Tudalen sy'n tarddu o riant-dudalen, megis Wicipedia:Y Caffi/archif. Gellir ddim ond creu is-dudalennau mewn rhai parthau. Peidiwch a ddefnyddio is-dudalennau yn y prif barth.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Is-dudalennau.
N
- Nodyn (Template)
- Gall cynnwys un dudalen gael ei osod o fewn tudalen arall trwy ei drawsgynnwys. Gelwir y tudalennau sydd wedi eu creu'n unswydd ar gyfer cael eu trawsgynnwys yn nodiadau (e.e. gwybodlenni, paneli llywio). Gosodir nodiadau ar y parth Nodyn.
- Gweler m:Help:Template am eglurhad pellach.
- NPOV
- Neutral Point of View (Saesneg) - polisi diduedd Wicipedia
P
- Porth y Gymuned (Community Portal)
- Un o brif tudalennau Wicipedia. Gellir ei ddarganfod ar y panel llywio (ar yr ochr chwith yn y rhan fwyaf o grwyn), ac mae'n dudalen sy'n rhestru tasgau sydd angen eu gwneud, materion sydd angen eu datrys, ac adnoddau a gwybodaeth gyffredinol. Mae Porth y Gymuned yn ddefnyddiol ar gyfer dewis erthygl neu bwnc i weithio arno neu i ddarllen.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Porth y Gymuned.
Rh
- Rhestr wylio (Watchlist)
- Grŵp o dudalennau a ddewisir gan y defnyddiwr, sy'n gallu clicio ar "fy rhestr wylio" i weld newidiadau diweddaraf y tudalennau hynny.
- Gweler hefyd: Cymorth:Gwylio tudalennau.
S
- Stiward (Steward)
- Mae Stiward yn Weinyddwr sydd â'r gallu i newid statws unrhyw ddefnyddiwr ar unrhywun o wicïau Sefydliad Wikimedia, gan gynnwys y gallu i roi a thynnu statws Gweinyddwyr a Biwrocratiaid.
- Gweler hefyd meta:Steward.
T
- Trawsgynnwys (Transclude)
- Gosod cynnwys un dudalen o fewn tudalen arall ar y wici. Mae'r nodiadau ar y parth Nodyn wedi eu creu'n bwrpasol at gael eu trawsgynnwys ar dudalennau eraill.
- Gweler en:Wikipedia:Transclusion am eglurhad pellach.
- Tudalennau amheus (Articles for Deletion)
- Tudalen i drafod cynigion i ddileu tudalen yn y wici.
- Gweler Wikipedia:Guide to deletion am eglurhad pellach.
- Tudalen bwnc (Content page)
- Tudalen lle mae'r cynnwys yn rhan o brif pwrpas y wici. Ar Wicipedia mae'r erthyglau yn y prif barth a'r tudalennau yn y parth 'delwedd' yn dudalennau pwnc.
- Tudalen sgwrs (Talk page)
- Tudalen ar gyfer trafod y dudalen mae ynghlwm wrtho. Mae gan bob tudalen ar Wicipedia (ar wahân i dudalennau yn y parth Arbennig, a thudalennau sgwrs eu hunain) tudalen sgwrs.
- Gweler hefyd: Wicipedia:Tudalen sgwrs a Wicipedia:Canllawiau tudalennau sgwrs
- Tudalen wahaniaethu (Disambiguation page)
- Tudalen sydd yn cynnwys ystyron gwahanol gair, ac sy'n cysylltu i'r tudalennau lle diffinir yr ystyron gwahanol. Os oes angen rhagor o wahaniaethu rhwng termau, enwir tudalennau gwahaniaethu yn "bwnc (gwahaniaethu)".
- Gweler hefyd: Gwahaniaethu.
W
- Wiciadur (Wiktionary)
- Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu geiriadur ar-lein o bob gair ym mhob iaith.
- Gweler hefyd: Wiciadur.
- WiciBrosiect (WikiProject)
- Prosiect ar Wicipedia sy'n cydlynu'r gwaith o wella'r holl erthyglau ar bwnc arbennig.
- Gweler hefyd: Wicipedia:WiciBrosiectau.
- Wicifywyd (Wikispecies)
- Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu cyfeiriadur ar-lein o'r holl rywogaethau (wedi'i anelu yn bennaf at ddefnyddwyr gwyddonol yn hytrach na defnyddwyr cyffredinol).
- Gweler hefyd: Wicifywyd.
- Wicilyfrau (Wikibooks)
- Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu casgliad ar-lein o werslyfrau a llawlyfrau.
- Gweler hefyd: Wicilyfrau.
- Wicidestun (Wikisource)
- Un o chwaer brosiectau Wicipedia sydd â'r amcan o greu casgliad ar-lein o destunau a dogfennau sydd yn y parth cyhoeddus.
- Gweler hefyd: Wicitestun.
- WP
- Wicipedia