Parc Trelái
Math | parc |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerau |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.479233°N 3.235226°W |
Mae Parc Trelái (Saesneg: Trelai Park) yn barc a man natur agored ar ochr orllewinnol Caerdydd ym maestref Caerau. Agorwyd y parc ym 1933 ond bu'n lleoliad rasio ceffylau pwysig o 1855 hyd ganol yr 20g. Mae’r parc nawr yn un o gaeau chwarae mwyaf Caerdydd, ac mae yno faes parcio mawr ac ystafelloedd newid a chlwb bocsio ger llaw.[1] Yng nghanol y parc mae safle fila (plasty) Rhufeinig sy’n dyddio o’r ganrif gyntaf OC. Mae llwybrau trwy’r parc yn arwain i Goed Lecwydd.[2]
Lleoliad
[golygu | golygu cod]I'r de o’r parc lleoliad Coed Lecwydd. Gellir cyrraedd yno ar hyd isffordd dan y ffordd osgoi A432 sy'n cysylltu de Caerdydd â'r M4. Ffin ddwyreiniol y Parc yw'r Afon Elái tu hwnt i'r rhandiroedd ac yna Parc Sanitoriwm yn ardal Treganna. Mae Llwybr Elái, sydd yr ochr arall i’r afon, yn gysylltiad i gerddwyr a beicwyr rhwng y wlad yn ardal Sain Ffagan a Bae Caerdydd.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Datblygwyd Parc Trelái yn y 1940au a'r 1950au ar safle Cae Ras Trelái, lleoliad rasio ceffylau pwysig o 1855 tan ddiwedd y 1930au. O fewn y parc mae olion fila Rufeinig a gloddiwyd ym 1922 gan Syr Mortimer Wheeler. Mabwysiadwyd yr enw Trelai Park / Parc Trelái yn swyddogol ym mis Hydref 1955. Mae'r parc heddiw yn cynnwys meysydd chwaraeon yn bennaf.[3]
Crëwyd y parc fel parc trefol pwrpasol ym 1933.
Mae Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER, Caerau and Ely Rediscovering (CAER) Heritage Project) , sef partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion lleol, trigolion a phartneriaid treftadaeth, bellach wedi troi ei sylw at Barc Trelái, hanner milltir o Fryngaer Caerau, sef safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol lle daeth archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd ac aelodau o'r gymuned o hyd i wreiddiau’n ddiweddar sy’n dyddio o’r cyfnod Neolithig, Oes yr Haearn a’r cyfnod Rhufeinig a chanoloesol.[4]
Olion Rhufeinig
[golygu | golygu cod]Yn yr ardal o laswelltir garw ar ochr ddwyreiniol y parc, cloddiwyd fila Rufeinig gan archeolegwyr ym 1894 ac yn ddiweddarach. Daethant hefyd o hyd i ben saeth fflint Neolithig, o tua 3000-2500CC.
Daethant i'r casgliad bod y fila wedi'i adeiladu tua 150AD a'i fod yn parhau i gael ei ddefnyddio tan c.325AD. Roedd ganddo do teils a chwrt. Roedd rhan ganolog yr adeilad yn mesur tua 21x18 metr.
Roedd adeilad tair ystafell ar wahân gerllaw. I'r gogledd, darganfuwyd sgerbwd dynol. Gorweddai ar yr echel dwyrain-gorllewin, sy'n dynodi claddedigaeth Gristnogol. Darganfuwyd olion ffowndri haearn hefyd, gan gynnwys slag (gwastraff gwaith haearn). Ymhlith y gwrthrychau bach a ganfuwyd yno roedd darnau arian, pinnau efydd ac asgwrn, crochenwaith a hidlydd wedi'i wneud o blwm.
Yn 1894 darganfuwyd mortariwm, powlen hemisfferig fawr gyda graean wedi'i fewnosod i'r wyneb mewnol i'w ddefnyddio mewn ceginau Rhufeinig ar gyfer pwnio a chymysgu bwyd. Mae’n debyg bod yr enghraifft hon wedi’i gwneud rhywle yn yr hyn sydd bellach yn Ne-ddwyrain Cymru.[5]
Cae Rasys
[golygu | golygu cod]Dechreuodd rasys “dros y cwrs newydd yn Nhrelái” gyda digwyddiad deuddydd ym mis Mai 1855. Ymhlith y gwobrau roedd Revival Stakes, Cardiff Stakes, Ely Stakes a'r Innkeepers’ Plate. Roedd rasys clwydi hefyd. Hyd y cwrs oedd 2.4km o hyd (1.5 milltir).
Yn ddiweddarach adeiladwyd eisteddle tri llawr. Roedd y cwrs yn gartref i Grand National Cymru. Daeth yr arloeswr hedfan Gustav Hamel ag awyren i Gae Ras Trelái ym 1913.
Parhaodd y rasys ar ôl i Gyngor Caerdydd brynu’r tir ym 1931 ar gyfer hamdden ond daeth i ben erbyn yr Ail Ryfel Byd, pan gymerodd y fyddin drosodd rannau o’r cwrs. Roedd yna faesfa reifflau eisoes ar gyfer milwyr tiriogaethol (wrth gefn) yng nghornel de-ddwyreiniol y ddaear erbyn y 1870au.[5]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Cymuned Caearau fel rhan o Gyngor Caerdydd (2010)
-
Traphont dros ffordd osgoi Caerdydd, yr A4232, sy'n estyn o Barc Trelái i dir Lecwydd
-
Ffordd osgoi gorllewin Caerdydd, yr A4232, ger Parc Trelái
-
yr Afon Elái o Bont Elái, Caerdydd, ffin ddwyreiniol y Parc
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Oldest house in Cardiff discovered under city park Ffilm ar Wales Online ar waith archeolegol ym Mharc Trelái (2023)
- THIS IS ELY - CAERAU (APRIL 23) DYMA TRELAI - CAERAU (EBRILL 23) Fideo ar yr ardal gan gynnwys wedi ffilmio ar y Parc (2023)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Trelai Park Documentary Short". Sianel Youtube Gerald Pospischil. 2021.
- ↑ 2.0 2.1 "Parc Trelai". Gwefan Awyr Agored Caerdydd. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Trelai Park (Ely Racecourse)". Gwefan CardiffParks.org.uk. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Mae'n bosibl y bydd gwaith cloddio archeolegol mewn parc yn datgelu hanes sydd wedi bod ynghudd ers 2,000 o flynyddoedd". Gwefan Prifysgol Caerdydd. 1 Gorffennaf 2022.
- ↑ 5.0 5.1 "Trelai Park, Ely, Cardiff". Gwefan HistoryPoints.org. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2024.