Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston
Math | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, parc gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4152°N 3.1867°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Lleolir Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston (Saesneg: Cosmeston Lakes Country Park), a adnabyddir fel rheol fel Llynnoedd Cosmeston, yn nwyrain Bro Morgannwg, tua phum milltir i'r gorllewin o ddinas Caerdydd rhwng Penarth a'r Sili.[1] Noder mai 'Costwn'[2] yw'r enw frodorol Gymraeg ar yr ardal, er pur anaml gwelir Parc Gwledig Llynnoedd Costwn.
Mae'r parc yn cynnwys dros 100 hectar. Ceir llyn mawr yng nghanol y parc gyda phyllau eraill, gwlybtiroedd a choed o'i gwmpas. Ger y llyn mwyaf darganfuwyd safle pentref canoloesol. Ar gwr dwyreiniol y parc ceir maes criced Clwb Golff Morgannwg.
Nodweddion
[golygu | golygu cod]Prif nodwedd y parc gwledig hwn yw'r ddau lyn mawr sydd wedi'u rhannu gan bont ar y prif lwybr troed 'ffordd filltir'. Mae gan y parc gwledig amrywiaeth o gynefinoedd sy'n gorchuddio dros 100 hectar o dir a dŵr, gyda rhai ardaloedd wedi'u dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gan warchod y rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid prin ac amrywiol.[3]
Mae hanes y llynnoedd sy'n ganolbwynt i'r parc yn cychwyn gyda datblygu chwareli calchfaen yno yn y 1890au. Peidiodd y gwaith yn 1970. Llenwyd rhai o'r pyllau gan ffynonellau naturiol i greu llynnoedd a welir heddiw. Cafodd y tipiau gwastraff eu tirweddu wedyn. Agorodd y parc i’r cyhoedd yn 1978 a’i ddyrchafu i statws Gwarchodfa Natur Leol ym mis Mai 2013.
Mae'r llyn yn cynnwys amrywiaeth eang o adar dŵr, gan gynnwys elyrch, hwyaid gwyllt, gwyachod, a chwtieir ac ati. Mae hanner dwyreiniol y llyn ar agor i'w llogi i glybiau chwaraeon dŵr di-fodur, megis cychod rhwyfo, sy'n gysylltiedig â Chyngor Bro Morgannwg.
O fewn y parc gwledig gellir dod o hyd i Pentref Canoloesol Cosmeston.[4]
Dechreuodd parkrun Llynnoedd Cosmeston ar 7 Rhagfyr 2019 ac fe'i cynhelir bob dydd Sadwrn am 09:00am.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Tudalen swyddogol Archifwyd 2011-06-08 yn y Peiriant Wayback ar wefan Cyngor Sir Bro Morgannwg
- Cosmeston Lakes Country Park fideo drôn gan Gyngor Sir Bro Morgannwg (2016)
- Cosmeston Lakes Country Park fideo o'r Parc (2023)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston". Cyngor Bro Morgannwg. Cyrchwyd 21 Hydref 2024.
- ↑ "Map Caerdydd". Blog Diferion Diferion o'r Pwll Coch: ambell dropyn am y Gymraeg yng Nghaerdydd a thu hwnt. 26 Mehefin 2017.
- ↑ "Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston". Cyngor Bro Morgannwg. Cyrchwyd 21 Hydref 2024.
- ↑ "Why you SHOULD Visit Cosmeston Lakes Country Park and Medieval Village!". Sianel Youtube Prosser Family Adventures. 2022.