Neidio i'r cynnwys

Ynys Reichenau

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:17, 7 Gorffennaf 2012 gan MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
Eglwys Reichenau-Niederzell

Ynys yn rhan yr Almaen o'r Bodensee yw Ynys Reichenau. Saif i'r gorllewin o ddinas Konstanz, ac mae cob yn cysylltu'r ynys a'r tir mawr.

Cyhoeddwyd yr ynys yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2000 oherwydd Abaty Reichenau a'i heglwys gadeiriol; ceir dwy eglwys nodedig arall ar yr ynys hefyd.

Sefydlwyd yr abaty Benedictaidd yn 724 gan Sant Pirmin, gyda nawdd Siarl Martel ac eraill. Daeth yn sefydliad pwysig dan yr Abad Waldo o Reichenau (740814) ac yn ddiweddarach dan yr Abad Berno o Reichenau (100848). Cynhyrchwyd nifer o wethiau nodedig gan scriptorium yr abaty.