Stryd y Fflyd
Gwedd
Mae Stryd y Fflyd (Saesneg: Fleet Street) yn stryd yn Llundain, Lloegr, sy wedi'i henwi ar ôl Afon Fflyd. Fan hyn oedd cartref y wasg Seisnig/Brydeinig tan y 1980au. Er i'r swyddfa newyddion olaf adael yn 2005, mae enw y stryd yn cael ei ddefnyddio o hyd fel trawsenw i wasg Lloegr.
Dyma'r stryd a wnaethpwyd yn enwog oherwydd y chwedl Sweeney Todd hefyd.