Nairobi
Math | endid daearyddol, gweinyddol yn Cenia, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 5,545,000 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dyffryn yr Hollt Deheuol |
Sir | Sir Nairobi |
Gwlad | Cenia |
Arwynebedd | 696 km² |
Uwch y môr | 1,661 metr |
Cyfesurynnau | 1.2864°S 36.8172°E |
KE-110 | |
Prifddinas a dinas fwyaf Cenia yw Nairobi a chyfeirir ati'n aml fel "Dinas Werdd yr Haul". Daw'r enw 'Nairobi' o'r Maasai Enkare Nyorobi, "man y dyfroedd oer". Gyda phoblogaeth o dros 5,545,000 (2016)[1] yn y ddinas a thua 10 miliwn yn yr ardal ddinesig ehangach, hi yw'r ddinas fwyaf yn Nwyrain Affrica a'r bedwaredd yn Affrica o ran poblogaeth. Llifa Afon Nairobi ("y dyfroedd oer") drwy'r ddinas, 1,795 metr (5,889 tr) uwch lefel y môr.[2]
Sefydlwyd Nairobi ym 1899 gan awdurdodau trefedigaethol (neu Colonial) Lloegr yn Nwyrain Affrica, fel depo rheilffordd ar Reilffordd Wganda.[3] Tyfodd y dref yn gyflym i gymryd lle Mombasa fel prifddinas Cenia erbyn 1907.[4] Ar ôl annibyniaeth y wlad ym 1963, daeth Nairobi'n brifddinas Gweriniaeth Cenia.[5] Yn ystod cyfnod trefedigaethol Cenia, daeth y ddinas yn ganolfan ar gyfer diwydiant coffi, te a sisal.[6][7]
Yn gartref i filoedd o fusnesau o Cenia a dros 100 o gwmnïau a sefydliadau rhyngwladol mawr, gan gynnwys Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig) a Swyddfa'r Cenhedloedd Unedig yn Nairobi (UNON), mae Nairobi yn ganolbwynt ar gyfer busnes a diwylliant. Saif Cyfnewidfa Gwarantau Nairobi (Nairobi Securities Exchange; NSE) yn un o'r mwyaf yn Affrica a'r gyfnewidfa ail-hynaf ar y cyfandir. Hon yw pedwerydd cyfnewidfa fwyaf Affrica o ran cyfaint y masnachu dyddiol. Gerllaw, ceir Parc Cenedlaethol Nairobi gyda gwarchodfa anifeiliaid-mawr.[8]
Mae dinas Nairobi yn gorwedd oddi fewn i ranbarth Metropolitan Nairobi (neu Nairobi Fwyaf), sy'n cynnwys 5 allan o 47 sir Cenia, ac sy'n cynhyrchu tua 60% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y genedl gyfan. Y siroedd yw:
Ardal | Sir | Arwynebedd (km2) | Poblogaeth census 2019 |
Trefi / dinasoedd yn y sir |
---|---|---|---|---|
Core Nairobi | Sir Nairobi | 696 | 4,397,073 | Nairobi |
Northern Metro | Sir Kiambu | 2,449.2 | 2,417,735 | Kiambu, Thika, Limuru, Ruiru, Karuri, Kikuyu, Ruaka, Kahawa a Githunguri |
North Eastern Metro | Sir Murang | 2,325.8 | 1,056,640 | Gatanga, Kandara, Kenol/Kabati, Murang'a |
Southern Metro | Sir Kajiado | 21,292.7 | 1,107,296 | Kajiado, Olkejuado, Bissil, Ngong, Kitengela, Kiserian, Ongata Rongai |
Eastern Metro | Sir Machakos | 5,952.9 | 1,421,932 | Kangundo-Tala, Machakos, Athi |
Cyfanswm | Metro Nairobi | 32,715.5 | 10,400,676 |
Ffynhonnell: Nairobi Metro/ Cyfrifiad Cenia Archifwyd 2021-01-24 yn y Peiriant Wayback
Hanes
[golygu | golygu cod]Hanes cynnar
[golygu | golygu cod]Yn wreiddiol, roedd safle Nairobi yn rhan o gors anghyfannedd.[9] Daw'r enw Nairobi ei hun o'r ymadrodd Maasai sy'n golygu "dyfroedd cŵl", gan gyfeirio at y llif dŵr oer a lifai trwy'r ardal.[10] Gyda dyfodiad Rheilffordd Wganda, nodwyd y safle gan Syr George Whitehouse ar gyfer depo siop, tir siyntio a maes gwersylla ar gyfer y llafurwyr Indiaidd a weithiai ar y rheilffordd. Roedd Whitehouse, prif beiriannydd y rheilffordd, yn ffafrio'r safle fel man gorffwys delfrydol oherwydd ei ddrychiad uchel, yr hinsawdd dymherus, ei gyflenwad dŵr digonol a'i fod wedi'i leoli ychydig cyn esgyniad serth sgarpiau Limuru.[11][12] Cafodd y dewis hwn ei feirniadu fodd bynnag gan swyddogion o fewn llywodraeth y Protectorate a oedd yn teimlo bod y safle'n rhy wastad, wedi'i ddraenio'n wael ac yn gymharol anffrwythlon.[13]
Yn ystod yr oes cyn-drefedigaethol, roedd pobl Cenia'n byw mewn pentrefi ymhlith eu llwythau a'u diwylliannau lle roedd ganddyn nhw lywodraethwyr yn eu cymunedau yn hytrach nag arlywydd.[13]
Ym 1898, comisiynwyd Arthur Church i ddylunio cynllun y dref gyntaf ar gyfer y depo rheilffordd. Roedd yn cynnwys dwy stryd - Victoria Street a Station Street (yn iaith y goresgynwyr gwyn), deg rhodfa, adeiladau staff ac ardal fasnachol Indiaidd. Cyrhaeddodd y rheilffordd Nairobi ar 30 Mai 1899, a chyn bo hir disodlodd Nairobi Machakos fel pencadlys gweinyddiaeth y dalaith ar gyfer talaith Ukamba.[14][15]
Fodd bynnag, roedd y blynyddoedd cynnar yn llawn o broblemau malaria gan arwain at o leiaf un ymgais i ail-leoli'r dref mewn man arall.[16] Yn gynnar yn y 1900au, ailadeiladwyd Bazaar Street (Biashara Street erbyn hyn) yn llwyr ar ôl i'r pla ddechrau a llosgi'r dref wreiddiol.[17]
Rhwng 1902 a 1910, cynyddodd poblogaeth y dref o 5,000 i 16,000 a thyfodd o amgylch gweinyddiaeth a thwristiaeth, ar ffurf hela anifeiliaid-mawr i ddechrau.[18] Ym 1907, disodlodd Nairobi Mombasa fel prifddinas Protectorate Dwyrain Affrica.[19] Erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Nairobi wedi'i hen sefydlu fel trefedigaeth ymsefydlwyr Ewropeaidd trwy fewnfudo a dieithrio tir.[20] Ym 1919, cyhoeddwyd statws bwrdeistref i Nairobi.[21][22]
Yn 1921, roedd gan Nairobi 24,000 o drigolion, gyda 12,000 ohonynt yn Affricaniaid brodorol.[23] Byddai'r degawd nesaf yn gweld twf yng nghymunedau brodorol Affrica i Nairobi, lle byddent yn mynd ymlaen i fod yn fwyafrif am y tro cyntaf.[23]
Annibyniaeth
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ehangu parhaus y ddinas ddigio’r Maasai, gan fod y ddinas yn dwyn eu tiroedd i’r de. Roedd hefyd yn gwylltio pobl Kikuyu, a oedd am i'r tir gael ei ddychwelyd iddynt. Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, datblygodd y ffrithiant hwn yn wrthryfel Mau Mau. Cafodd Jomo Kenyatta, darpar arlywydd Cenia ei garcharu am ei ran, er nad oedd tystiolaeth yn ei gysylltu â'r gwrthryfel. Arweiniodd y pwysau cynyddol hwn, a roddwyd gan y bobl leol ar Brydain, at annibyniaeth Cenia yn 1963, gyda Nairobi yn brifddinas y weriniaeth newydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
- ↑ AlNinga. "Attractions of Nairobi". alninga.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Medi 2007. Cyrchwyd 14 Mehefin 2007.
- ↑ Roger S. Greenway, Timothy M. Monsma, Cities: missions' new frontier, (Baker Book House: 1989), t.163.
- ↑ mombasa.go.ke (2018-07-28). "History of Mombasa". Mombasa County. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-26. Cyrchwyd 2021-03-25.
- ↑ britannica.com. "Nairobi History". www.britannica.com/. Cyrchwyd 18 Chwefror 2020.
- ↑ "Production". East Africa Sisal (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-24.
- ↑ Rashid, Mahbub (2016-06-16). The Geometry of Urban Layouts: A Global Comparative Study (yn Saesneg). Springer. ISBN 978-3-319-30750-3.
- ↑ [1] Archifwyd 3 Rhagfyr 2008 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Donald B. Freeman, City of Farmers: Informal Urban Agriculture in the Open Spaces of Nairobi, Kenya, McGill-Queen's Press - MQUP, 1 Mawrth 1991
- ↑ Frédéric Landy, From Urban National Parks to Natured Cities in the Global South: The Quest for Naturbanity, Springer, 20 Gorffennaf 2018, p.50
- ↑ "Anne-Marie Deisser 2016, tud.76"; Anne-Marie Deisser, Mugwima Njuguna, Conservation of Natural and Cultural Heritage in Kenya, UCL Press, 7 Hydref 2016, tud.76
- ↑ United Nations University. "Nairobi: National capital and regional hub". unu.edu. Cyrchwyd 17 Mehefin 2007.
- ↑ 13.0 13.1 Tignor, Robert L. (1971). "Colonial Chiefs in Chiefless Societies". The Journal of Modern African Studies 9 (3): 339–359. doi:10.1017/S0022278X00025131. JSTOR 159669. https://www.jstor.org/stable/159669?seq=1. Adalwyd 28 Medi 2020.
- ↑ Roman Adrian Cybriwsky, Capital Cities around the World: An Encyclopedia of Geography, History, and Culture, ABC-CLIO, USA, 2013, tud. 303
- ↑ The Eastern Africa Journal of Historical and Social Sciences Research, Volume 1, Indiana University, 8 Publishers, 1996
- ↑ Reiter, Paul (5 Rhagfyr 2009). "The inconvenient truth about malaria". Spectator.
- ↑ "The man who saved Nairobi from the Bubonic Plague – Owaahh". Owaahh (yn Saesneg). 16 Ebrill 2014. Cyrchwyd 19 Ionawr 2018.
- ↑ Sana Aiyar, Indians in Kenya: The Politics of Diaspora, Harvard University Press, 2015, tud.42
- ↑ Claire C. Robertson, Trouble Showed the Way: Women, Men, and Trade in the Nairobi Area, 1890–1990, Indiana University Press, 1997, tud.16
- ↑ Claire C. Robertson, Trouble Showed the Way: Women, Men, and Trade in the Nairobi Area, 1890–1990, Indiana University Press, 1997, tud.13
- ↑ Merriam-Webster, Inc (1997). Merriam-Webster's Geographical Dictionary. Merriam-Webster. t. 786. ISBN 0-87779-546-0.
- ↑ Britannica, Nairobi, britannica.com, USA, adalwyd 7 Gorffennaf 2019
- ↑ 23.0 23.1 Garth Andrew Myers, Verandahs of Power: Colonialism and Space in Urban Africa, Syracuse University Press, 2003