Neidio i'r cynnwys

Andy John

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:34, 24 Medi 2023 gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau)
Andy John
Ganwyd9 Ionawr 1964 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddArchesgob Cymru, Esgob Bangor Edit this on Wikidata

Archesgob Cymru a chyn-Esgob Bangor yw'r Hybarch Andrew Thomas Griffith John (neu 'Andy John'[1]; ganed 9 Ionawr 1964), a etholwyd i'r swydd fel yr 81ain esgob ar 9 Hydref 2008 ac fel Archesgob Cymru. Bu'n beiriannydd awyrennau am gyfnod a gwasanaethodd yn Llynges Frenhinol Lloegr yn ystod Rhyfel Ynysoedd y Falkland ym 1982.[2] Bu'n beiriannydd am 12 mlynedd. Yn 2023 cyhoeddodd y byddai Cymru'n well well pe bai'n wlad annibynnol, yn rhydd oddi wrth Lloegr.

Ganed Andrew Thomas Griffith John yn Ashton-under-Lyne, cyn symud yn ifanc iawn i Aberystwyth. Astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna yn Ngholeg Sant Ioan, Nottingham. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1989 ac yn offeiriad yn 1990.[3]

Ymunodd â’r Llynges Frenhinol ar ôl gadael yr ysgol i hyfforddi fel peiriannydd awyrennau. Bu’n gweithio ar jetiau Phantom F4, hofrenyddion Lynx a Sea Harriers ar longau cludo awyrennau o gwmpas y byd. Wedi iddo adael y Llynges treuliodd ddwy flynedd yn y Dwyrain Canol, yn gweithio ar awyrennau jet tornado.

Yr Eglwys yng Nghymru

Cychwynnodd John hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, Caerdydd ac fe’i hordeiniwyd yn 1994.

Bu John yn Archddiacon Ceredigion ac yn swyddog eciwmenaidd o fewn Esgobaeth Tyddewi. Bu'n ficer tîm yn Aberystwyth o 1992 hyd 1999, yna'n ficer Henfynyw gydag Aberaeron a Llanddewi Aberarth hyd 2006, pan ddaeth yn ficer Pencarreg a Llanycrwys ac yn Archddiacon Aberteifi.

Yn 58 oed yn Rhagfyr 2021, fe'i pendowyd yn Archesgob Cymru, yn dilyn yr Archesgob John Davies. Ef yw'r 14ydd Archesgob.

Annibyniaeth

Ar y rhaglen Y Byd y ei Le ar S4C dywedodd mai ei farn bersonol oedd ei fod yn deall y galwadau am annibyniaeth i Gymru, ac nad oedd Westminster yn ddigonol i Gymru. Nododd mai'r "dull gorau i ddatrus problemau Cymru yw annibyniaeth."[4] Mewn cyfweliad yn y Spectator yn Ebrill 2023, dywedodd fod San Steffan yn annigonol ac mai'r unig ddull i ateb problemau Cymru yw trwy annibyniaeth.[5]

Personol

Dywedodd wrth Golwg360 iddo, yn ei ieuenctid, chwarae’r gitâr mewn band roc, a bod ganddo datŵ ar ei gefn.[6]

Bu'n briod ac mae ganddo ddwy ferch a nifer o wyrion.

Cyfeiriadau

  1. www.churchinwales.org.uk; adalwyd 31 Ionawr 2023.
  2. www.churchinwales.org.uk; Gwefan yr Eglwys yng Nghymru; adalwyd 31 Ionawr 2023.
  3. www.churchinwales.org.uk; adalwyd 31 Ionawr 2023.
  4. nation.cymru; adalwyd 31 Ionawr 2023.
  5. www.spectator.co.uk; adalwyd 10 Ebrill 2023.
  6. golwg.360.cymru; angen tanysgrifiad; adalwyd 31 Ionawr 2023.

Dolenni allanol