Islam yn ôl gwlad
Enghraifft o'r canlynol | erthygl sydd hefyd yn rhestr |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Islam yw'r ail grefydd fwyaf yn y byd ar ôl Cristnogaeth gyda 1.3-1.8 biliwn o gredadwyr, sy'n cynnwys 20-25% o boblogaeth y byd[1] gyda'r rhan fwyaf o ffynonellau yn amcangyfrif fod tua 1.5 biliwn o Fwslimiaid yn y byd.[2][3]
Islam yw'r brif grefydd yn y Dwyrain Canol, rhai rhannau o Affrica[4][5] ac Asia.[6] Ceir cymunedau sylweddol o Fwslimiaid yn Ngweriniaeth Pobl Tsieina, Bosnia-Hertsegofina, Dwyrain Ewrop a Rwsia hefyd. Mewn rhai rhannau eraill o'r byd, ceir poblogaethau o fewnfudwyr Mwslimaidd; yng Ngorllewin Ewrop Islam yw'r ail grefydd fwyaf ar ôl Cristnogaeth.
Mewn tua 30 i 40 o wledydd y byd mae Mwslimiaid yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth. De Asia a De-ddwyrain Asia yw'r rhanbarthau lle ceir y gwledydd Mwslim mwyaf; Ceir dros 100 miliwn o Fwslimiaid ym mhob un o'r gwledydd hyn: Indonesia, Pacistan, India (lleiafrif), a Bangladesh.[7] Yn ôl llywodraeth yr Unol Daleithiau, roedd yna dros 20 miliwn Mwslim yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yn 2006 (canran isel o'r boblogaeth er hynny, yn byw yng ngorllewin y wlad yn bennaf).[8] Yn y Dwyrain Canol, Twrci ac Iran, sydd ddim yn wledydd Arabaidd, yw'r gwledydd mwyaf gyda mwyafrif Mwslimaidd; yn Affrica, ceir y cymundau Mwslim mwyaf yn Yr Aifft a Nigeria. Mae mwyafrif llethol poblogaeth gwledydd y Maghreb yn Fwslimiaid hefyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Adherents.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-26. Cyrchwyd 2009-09-10.
- ↑ "Adherents.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-26. Cyrchwyd 2009-09-10.
- ↑ "Adherents.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-15. Cyrchwyd 2009-09-10.
- ↑ "The Africanization of Missionary Christianity: History and Typology", Steven Kaplan, Journal of Religion in Africa 16 (3) (1986), 165-186. "In Africa, Islam and Christianity are growing - and blending". Abraham McLaughlin, The Christian Science Monitor, 26 Ionawr 2006.
- ↑ Encyclopedia Britannica. Britannica Book of the Year 2003. Encyclopedia Britannica, (2003) ISBN 978-0-85229-956-2 tud. 306.
- ↑ Britannica [1], Think Quest [2] Archifwyd 2010-02-17 yn y Peiriant Wayback, Wadsworth.com [3] Archifwyd 2008-12-14 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Number of Muslims by country
- ↑ 'International Religious Freedom Report 2006—China' (yn cynnwys Tibet, Hong Cong, a Macau).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Islamic Population
- (Saesneg) Europe: European Muslim Union Archifwyd 2006-02-06 yn archive.today