Neidio i'r cynnwys

Gwefr drydanol

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Gwefr drydanol a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 10:45, 1 Ebrill 2023. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Gwefr drydanol
Mathmeintiau sgalar, maint corfforol, additive quantity, Gwefr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o briodweddau ffisegol mater ydy gwefr drydanol (symbol arferol: Q) sy'n peri iddo brofi grym pan fo wrth ymyl mater sydd hefyd wedi'i wefru. Mae dau fath o wefr drydanol: posydd (neu "bositif") a negydd (neu "negatif"). Mae dau ddeunydd sydd wedi'u gwefru'n bositif ill dau yn profi egni egni gwrthyru, ac felly dau ddefnydd sydd wedi'u gwefru'n negatif. Mae dau beth â gwefrau trydan annhebyg (h.y. y nail yn bositif a'r llall yn negatif) yn atynnu ei gilydd.

Gwefr bositif
Gwefr negatif

Pan fo gwefr drydanol (Q) yn goddef newid yn y foltedd (V), yna caiff egni (E) ei drosglwyddo. Bydd y wefr yma'n rhoi'r gorau i'r egni hwn pan yw'n goddef lleihad foltedd mewn cydrannau eraill yn y gylched. Y fformiwla ydy: E = QV.

Mae'r coulomb (symbol: C) yn uned SI rhyngwladol sy'n hafal i un uned o wefr trydanol, sef oddeutu 6.24151 × 1018 proton neu −6.24151 × 1018 electron.[1] Yr enw ar y maes hwn, y maes o sut mae pethau neu deunydd sydd wedi'u gwefru yn rhyngweithio â'i gilydd yn cael ei alw'n electrodeinameg clasurol.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. [1] Electric Charge gan yr Athro Joseph F. Becker, San Jose State University
Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.