Neidio i'r cynnwys

Lleweni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 42: Llinell 42:
== Gweler hefyd ==
== Gweler hefyd ==
*[[Bachymbyd]], plasty ger [[Rhuthun]] a sefydlwyd gan [[Pyrs Salbri]].
*[[Bachymbyd]], plasty ger [[Rhuthun]] a sefydlwyd gan [[Pyrs Salbri]].
*[[Gwaith Cannu Lleweni]]

==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==
*[http://www.gtj.org.uk/cy/large/item/17333/ Noson lawen yn Lleweni, 13 Chwefror 1953] - Delwedd oddi ar wefan [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]].
*[http://www.gtj.org.uk/cy/large/item/17333/ Noson lawen yn Lleweni, 13 Chwefror 1953] - Delwedd oddi ar wefan [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]].

Fersiwn yn ôl 07:42, 21 Medi 2017

Tu blaen Plas Lleweni
Tu blaen
Cefn Plas Lleweni
Cefn
Dau o luniau'r gyfrol A tour in Wales (1781) gan Thomas Pennant (1726-1798).

Plasty yn Sir Ddinbych yw Lleweni neu Blas Lleweni. Fe'i lleolwyd tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych, Sir Ddinbych ar lan Afon Clwyd. Bu'n gartref i aelodau teulu'r Salusbury (weithiau: 'Salbriaid') o tua 1066 hyd 1748. Cyn hynny, Llysmarchweithian oedd enw'r plasdy a'i berchennog oedd Marchweithian.

Yn ôl Hester Piozzi (1741 - 1821) roedd dros 200 o ystafelloedd yn y plas ar un adeg.

Rhai perchnogion

  • Syr John Salusbury
  • Wedi marwolaeth Thomas Salusbury yn 1586, aeth perchnogaeth y plasdy i'w frawd
  • Syr John Salusbury, (m. 1612), a briododd merch Henry Stanley, 4ydd Iarll Derby. Yna i'w fab
  • Syr Henry Salusbury, Barwn Cyntaf. (m. 1632), yna i'w fab
  • Syr Thomas Salusbury, Ail Farwn (m. 1643), yna i'w fab
  • Syr Thomas Salusbury, Trydydd Barwn (m. 1658) ac yna i'w frawd
  • Syr John Salusbury, Pedwerydd Barwn (a'r olaf), a fu farw heb etifedd yn 1684. aeth perchnogaeth y plasdy i'w chwaer
  • Hester Salusbury, gwraig Syr Robert Cotton o Combermere a Lleweni, Barwn cyntaf, (m. 1712). Yna i'w fab.
  • Syr Thomas Cotton of Combermere and Lleweni, Ail farwn (m. 1715). Ac yna i...
  • Syr Robert Salusbury Cotton, Trydydd Barwn (m. 1748). Dim etifedd ac aeth perchnogaeth y plasdy i'w frawd Sir Lynch Cotton, ac yna i'w fab yntau
  • Syr Robert Salusbury Cotton 5ed Bart, a'i fab Stapleton Cotton, 1st Viscount Combermere - a werthodd y plasdy i William Lewis Hughes, Barwn Dinorben.

Dymchwel rhannau

Dymchwelwyd rhannau o Blas Lleweni gan William Lewis Hughes er mwyn atgyweirio plasdy arall a oedd ganddo, sef Neuadd Cinmel (Sylwer: nid Parc Cinmel).

Adeiladau allanol

Ar un cyfnod roedd yma ddiwydiant cannu, sef gwynnu dillad mewn bleach neu gemegolyn tebyg.

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: