Neidio i'r cynnwys

Antonin Artaud: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 37 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q187166 (translate me)
Racconish (sgwrs | cyfraniadau)
img
Llinell 1: Llinell 1:
[[File:Artaud manray.jpg|thumb|Antonen Arto]]
Dramodydd, actor, cyfarwyddwr theatr a bardd [[Ffrancod|Ffrengig]] oedd '''Antoine Marie Joseph Artaud''' neu '''Antonin Artaud''' ([[4 Medi]] [[1896]], [[Marseille]] — [[4 Mawrth]] [[1948]], [[Paris]]). Mae'n cael ei gydnabod heddiw fel ffigwr amlwg ym myd [[theatr yr abswrd]].
Dramodydd, actor, cyfarwyddwr theatr a bardd [[Ffrancod|Ffrengig]] oedd '''Antoine Marie Joseph Artaud''' neu '''Antonin Artaud''' ([[4 Medi]] [[1896]], [[Marseille]] — [[4 Mawrth]] [[1948]], [[Paris]]). Mae'n cael ei gydnabod heddiw fel ffigwr amlwg ym myd [[theatr yr abswrd]].



Fersiwn yn ôl 11:07, 13 Ionawr 2014

Delwedd:Artaud manray.jpg
Antonen Arto

Dramodydd, actor, cyfarwyddwr theatr a bardd Ffrengig oedd Antoine Marie Joseph Artaud neu Antonin Artaud (4 Medi 1896, Marseille4 Mawrth 1948, Paris). Mae'n cael ei gydnabod heddiw fel ffigwr amlwg ym myd theatr yr abswrd.

Cefndir

Ganwyd Artaud ym Marseille, Ffrainc, yn fab i Euphrasie Alpas a Antoine-roi Artaud. Roedd ei rieni ill dau yn frodorion o Smyrna, Twrci sef Izmir fodern. Ganwyd naw o blant i'w rieni, ond dim ond Antonin ac un o'i chwiorydd lwyddodd i oroesi eu plentyndod. Fe effeithwyd Artaud gan feningitis difrifol pan oedd ond yn bedair mlwydd oed. Canlyniad hyn oedd bod ganddo natur nerfus a phiwis trwy gydol ei arddegau. Roedd hefyd yn dioddef o niwralgia, atal-dweud ac iselder ysbryd difrifol. Fe drinwyd y cyflwr yma efo defnydd o opiwm - canlyniad hyn oedd bod Artaud yn gaeth iddo trwy weddill ei fywyd.

Fe benderfynnodd ei rieni i yrru eu mab trallodus i iechydfa am gyfnodau hir yn ystod ei ieuenctid. Darllennodd yr Artaud ifanc waith sawl awdur, megis Arthur Rimbaud, Charles Baudelaire ac Edgar Allan Poe. Ym mis Mai 1919, fe rhagnodwyd lawdanwm iddo gan gyfarwyddwr yr iechydfa, ag arweiniodd Artaud i fod yn gaeth i'r cyffur hwnnw hefyd, ynghyd a sawl cyffur arall.