Andy John: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tagiau: Golygiad cod 2017 |
BDim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
Dywedodd wrth [[Golwg360]] iddo, yn ei ieuenctid, chwarae’r gitâr mewn [[band roc]], a bod ganddo [[tatŵ|datŵ]] ar ei gefn.<ref>[https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2096475-andrew-john-archesgob-cymru golwg.360.cymru;] angen tanysgrifiad; adalwyd 31 Ionawr 2023.</ref> |
Dywedodd wrth [[Golwg360]] iddo, yn ei ieuenctid, chwarae’r gitâr mewn [[band roc]], a bod ganddo [[tatŵ|datŵ]] ar ei gefn.<ref>[https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2096475-andrew-john-archesgob-cymru golwg.360.cymru;] angen tanysgrifiad; adalwyd 31 Ionawr 2023.</ref> |
||
Bu'n briod ac mae ganddo ddwy ferch a nifer o wyrion. |
|||
==Cysylltiad allanol== |
==Cysylltiad allanol== |
Fersiwn yn ôl 08:54, 31 Ionawr 2023
Andy John | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ionawr 1964 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Archesgob Cymru, Esgob Bangor |
Archesgob Cymru a chyn-Esgob Bangor yw'r Hybarch Andrew Thomas Griffith John (neu 'Andy John'[1]; ganed 9 Ionawr 1964), a etholwyd i'r swydd fel yr 81ain esgob ar 9 Hydref 2008 ac fel Archesgob Cymru. Bu'n beiriannydd awyrennau am gyfnod a gwasanaethodd yn Llynges Frenhinol Lloegr yn ystod Rhyfel Ynysoedd y Falkland ym 1982.[2] Bu'n beiriannydd am 12 mlynedd. Yn 2023 cyhoeddodd y byddai Cymru'n well well pe bai'n wlad annibynol, yn rhydd oddi wrth Lloegr.
Ganed Andrew Thomas Griffith John yn Ashton-under-Lyne, cyn symud yn ifanc iawn i Aberystwyth. Astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna yn Ngholeg Sant Ioan, Nottingham. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1989 ac yn offeiriad yn 1990.[3]
Ymunodd â’r Llynges Frenhinol ar ôl gadael yr ysgol i hyfforddi fel peiriannydd awyrennau. Bu’n gweithio ar jetiau Phantom F4, hofrenyddion Lynx a Sea Harriers ar longau cludo awyrennau o gwmpas y byd. Wedi iddo adael y Llynges treuliodd ddwy flynedd yn y Dwyrain Canol, yn gweithio ar awyrennau jet tornado.
Yr Eglwys yng Nghymru
Cychwynnodd John hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, Caerdydd ac fe’i hordeiniwyd yn 1994.
Bu John yn Archddiacon Ceredigion ac yn swyddog eciwmenaidd o fewn Esgobaeth Tyddewi. Bu'n ficer tîm yn Aberystwyth o 1992 hyd 1999, yna'n ficer Henfynyw gydag Aberaeron a Llanddewi Aberarth hyd 2006, pan ddaeth yn ficer Pencarreg a Llanycrwys ac yn Archddiacon Aberteifi.
Yn 58 oed yn Rhagfyr 2021, fe'i pendowyd yn Archesgob Cymru, yn dilyn yr Archesgob John Davies. Ef yw'r 14ydd Archesgob.
Annibyniaeth
Ar y rhaglen Y Byd y ei Le ar S4C dywedodd mai ei farn bersonol oedd ei fod yn deall y galwadau am annibyniaeth i Gymru, ac nad oedd Westminster yn ddigonol i Gymru. Nododd mai'r "dull gorau i ddatrus problemau Cymru yw annibyniaeth."[4]
Personol
Dywedodd wrth Golwg360 iddo, yn ei ieuenctid, chwarae’r gitâr mewn band roc, a bod ganddo datŵ ar ei gefn.[5]
Bu'n briod ac mae ganddo ddwy ferch a nifer o wyrion.
Cysylltiad allanol
Cyfeiriadau
- ↑ www.churchinwales.org.uk; adalwyd 31 Ionawr 2023.
- ↑ www.churchinwales.org.uk; Gwefan yr Eglwys yng Nghymru; adalwyd 31 Ionawr 2023.
- ↑ www.churchinwales.org.uk; adalwyd 31 Ionawr 2023.
- ↑ nation.cymru; adalwyd 31 Ionawr 2023.
- ↑ golwg.360.cymru; angen tanysgrifiad; adalwyd 31 Ionawr 2023.