Neidio i'r cynnwys

Avant-garde: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Manion
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 12: Llinell 12:
Her oesol yr avant-garde yw y bydd syniadaeth ac yn enwedig celf a cherddorieth, yn aml, yn dod brif-ffrwd. Bryd hynny, y cwestiwn mawr yw: a yw'r datblygiad yn y gelfyddyd honno'n avant-garde neu beidio?
Her oesol yr avant-garde yw y bydd syniadaeth ac yn enwedig celf a cherddorieth, yn aml, yn dod brif-ffrwd. Bryd hynny, y cwestiwn mawr yw: a yw'r datblygiad yn y gelfyddyd honno'n avant-garde neu beidio?


Nodwyd hyn gan ddeallusion [[Ysgol Frankfurt]] yn yr [[1930au]] a'r [[1940au]]. Gwelir y feirniadaeth a'r drafodaeth hyn yng ngwaith [[Theodor Adorno]] a [[Max Horkheimer]] yn eu traethawd, ''The Culture Industry: Enlightenment as Mass-Deception'' (1944), a hefyd Walter Benjamin yn ei waith dylanwadol iawn, ''The Work of Art in the Age of Mechanical Reproductio'' (1935, adolygwyd, 1939).<ref>http://hgar-srv3.bu.edu/collections/partisan-review/search/detail?id=283920</ref> Mae Greenberg yn defnyddio'r gair Almaeneg 'kitsch' i ddisgrifio'r gwrthwyneb llwyr i ddiwylliant avant-garde, a bathodd aelodau Ysgol Frankfurt y term, ''diwylliant torfol'' (mass culture) i gyfeirio at ddiwylliant ffug oedd yn gyson cael ei chynhyrchu gan y diwydiant diwylliant newydd (oedd yn cynnwys geist masnachol, y diwydiant ffilm, y diwydiant recordiau cerddoriaeth pob a'r cyfryngau megis teledu a radio).<ref name="sociosite.net">http://www.sociosite.net/topics/texts/adorno_culture_reconsidered.pdf</ref> Cyfeirion nhw at dwf diwydiant yma a olygai fod rhagoriaeth celfyddydol yn cael ei fesur wrth ei werth ariannol: gwerth nofel oedd ei werthiant; cerddoriaeth os oedd yn ennill 'disg aur' ac ar frig y siartiau. Yn y ffordd yma, roedd gwerth artistig gelfyddydol oedd mor bwysig i'r avanguardiaid yn cael ei golli a gwerthiant yn dod yn unig wir ffordd o fasur llwyddiant a gwerth unrhyw beth. Roedd diwylliant comsiwmer nawr yn rheoli.<ref name="sociosite.net"/>
Nodwyd hyn gan ddeallusion [[Ysgol Frankfurt]] yn yr [[1930au]] a'r [[1940au]]. Gwelir y feirniadaeth a'r drafodaeth hyn yng ngwaith [[Theodor Adorno]] a [[Max Horkheimer]] yn eu traethawd, ''The Culture Industry: Enlightenment as Mass-Deception'' (1944), a hefyd Walter Benjamin yn ei waith dylanwadol iawn, ''The Work of Art in the Age of Mechanical Reproductio'' (1935, adolygwyd, 1939).<ref>http://hgar-srv3.bu.edu/collections/partisan-review/search/detail?id=283920</ref> Mae Greenberg yn defnyddio'r gair Almaeneg 'kitsch' i ddisgrifio'r gwrthwyneb llwyr i ddiwylliant avant-garde, a bathodd aelodau Ysgol Frankfurt y term, ''diwylliant torfol'' (mass culture) i gyfeirio at ddiwylliant ffug oedd yn gyson cael ei chynhyrchu gan y diwydiant diwylliant newydd (oedd yn cynnwys geist masnachol, y diwydiant ffilm, y diwydiant recordiau cerddoriaeth pob a'r cyfryngau megis teledu a radio).<ref name="sociosite.net">{{Cite web |url=http://www.sociosite.net/topics/texts/adorno_culture_reconsidered.pdf |title=copi archif |access-date=2018-08-30 |archive-date=2018-09-29 |archive-url=https://web.archive.org/web/20180929171800/http://www.sociosite.net/topics/texts/adorno_culture_reconsidered.pdf |url-status=dead }}</ref> Cyfeirion nhw at dwf diwydiant yma a olygai fod rhagoriaeth celfyddydol yn cael ei fesur wrth ei werth ariannol: gwerth nofel oedd ei werthiant; cerddoriaeth os oedd yn ennill 'disg aur' ac ar frig y siartiau. Yn y ffordd yma, roedd gwerth artistig gelfyddydol oedd mor bwysig i'r avanguardiaid yn cael ei golli a gwerthiant yn dod yn unig wir ffordd o fasur llwyddiant a gwerth unrhyw beth. Roedd diwylliant comsiwmer nawr yn rheoli.<ref name="sociosite.net"/>


===Cerddoriaeth===
===Cerddoriaeth===

Fersiwn yn ôl 03:24, 19 Chwefror 2021

Fontaine (Fynnon) gan Marcel Duchamp, Musée national d'Art moderne

The Love of Zero, ffilm fer avant-garde o 1927 gan Robert Florey

Mae'r term avant-garde yn dod o'r Ffrangeg, golyga yn llythrennol 'blaen leng' neu 'blaengad'. Defnyddir ac arddelir y term gan bobl mewn gweithiau celf arbrofol neu an-uniongred, cerddoriaeth neu gymdeithas a gall gynnig beirniadaeth neu gritic yn y berthynas rhwng y cynhyrchydd a'r consiwmydd.

Bydd yr avant-garde yn gwthio ffinio o'r hyn sy'n dderbyniol fel norm, yn enwedig ym maes diwylliant. Gwelir hi fel bathodyn o'r hyn yw moderniaeth, yn wahanol i ôl-foderniaeth. Bydd nifer o artistiaid yn uniaethu gyda'r mudiad avant-garde ac yn dal i wneud gan olrhain y traddodiad o fudiad Dada i'r Situationists ac i'r artistiaid ôl-fodern ddechrau'r 1980au.

Mae'r avant-garde hefyd yn hyrwyddo diwygiadau cymdeithasol radical. Dyma oedd gwraidd ystyr dyfyniad Olinde Rodrigues yn ei erthygl "L'artiste, le savant et l'industriel" ("Yr artist, y gwyddonydd a'r diwydiannwr", 1825) sy'n cynnwys y cyfeiriad cyntaf i'r term "avant-garde" yn ei ystyr gyfoes. Galwodd Rodrigues ar i artistiaid "wasanaethu fel 'avant-garde' y bobl", gan fynnu "mae angen grym y ceflyddydau yn y modd mwyaf unionsyth a cyflymaf" er mwyn diwygiad cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd.[1]

Cysyniad a Dadansoddiad

Karlheinz Stockhausen (1980)
enghraifft o gelf Ciwbiaeth, 'Mann im Café', 1914 gan Juan Gris

Her oesol yr avant-garde yw y bydd syniadaeth ac yn enwedig celf a cherddorieth, yn aml, yn dod brif-ffrwd. Bryd hynny, y cwestiwn mawr yw: a yw'r datblygiad yn y gelfyddyd honno'n avant-garde neu beidio?

Nodwyd hyn gan ddeallusion Ysgol Frankfurt yn yr 1930au a'r 1940au. Gwelir y feirniadaeth a'r drafodaeth hyn yng ngwaith Theodor Adorno a Max Horkheimer yn eu traethawd, The Culture Industry: Enlightenment as Mass-Deception (1944), a hefyd Walter Benjamin yn ei waith dylanwadol iawn, The Work of Art in the Age of Mechanical Reproductio (1935, adolygwyd, 1939).[2] Mae Greenberg yn defnyddio'r gair Almaeneg 'kitsch' i ddisgrifio'r gwrthwyneb llwyr i ddiwylliant avant-garde, a bathodd aelodau Ysgol Frankfurt y term, diwylliant torfol (mass culture) i gyfeirio at ddiwylliant ffug oedd yn gyson cael ei chynhyrchu gan y diwydiant diwylliant newydd (oedd yn cynnwys geist masnachol, y diwydiant ffilm, y diwydiant recordiau cerddoriaeth pob a'r cyfryngau megis teledu a radio).[3] Cyfeirion nhw at dwf diwydiant yma a olygai fod rhagoriaeth celfyddydol yn cael ei fesur wrth ei werth ariannol: gwerth nofel oedd ei werthiant; cerddoriaeth os oedd yn ennill 'disg aur' ac ar frig y siartiau. Yn y ffordd yma, roedd gwerth artistig gelfyddydol oedd mor bwysig i'r avanguardiaid yn cael ei golli a gwerthiant yn dod yn unig wir ffordd o fasur llwyddiant a gwerth unrhyw beth. Roedd diwylliant comsiwmer nawr yn rheoli.[3]

Cerddoriaeth

Bydd cerddoriaeth avant-gard yn aml yn herio syniadaeth ar harmoni, melodi a rhyddm.

Gall cerddoriaeth avant-garde gyfeirio at unrhyw fath o gerddoriaeth o fewn ei strwythurau cydnabyddiedig, ond sy'n ceisio ymestyn ffiniau newydd mewn rhyw fodd. Ymysg rhai o gyfansoddwyr avant-garde enwog y 20g mae Arnold Schoenberg, Igor Stravinsky, Philip Glass, John Cage, Morton Feldman, Richard Strauss (yn ei waith cynharaf) a Karlheinz Stockhausen. Ceir hefyd gyfansoddwyr avant-garde benywaidd megis Pauline Oliveros, Diamanda Galás, Meredith Monk, a Laurie Anderson.

Ceir diffiniad arall o gerddoriaeth avant-garde sy'n ei wahaniaethu oddi wrth moderniaeth. Dywed Peter Bürger, er enghraifft, fod avant-gardiaeth yn ymwrthod â 'chelf fel sefydliad' ac yn herio moesau cymdeithasol ac artistig a gan hynny'n cynnwys ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Yn ôl y cyfansoddwr a'r cerddor Larry Sitsky, dydy rhai o gyfansoddwyr modernaidd yr 20g cynnar ddim i'w hystyried fel avant-gardiaid, mae'r rhain yn cynnwys Arnold Schoenberg, Anton Webern, a Igor Stravinsky ac eraill, gan fod eu "modernism was not conceived for the purpose of goading an audience."[4]

Theatr

Mae avant-garde yn gryf iawn ym maes theatr a chelfyddyd perfformio, ac mae hynny'n aml wrth gydweithio â datblygiadau ym myd cerddoriaeth, sain a chyfryngau gweledol. Ymysg y mudiadau a gyfrannodd neu a ddatblygodd yn y traddodiad avant-garde mae Fluxus, Happenings, a Neo-Dada.

Celf

Ceir nghreifftiau o gelf a dderbyniwyd yn hwyrach ymlaen fel avant-garde a datblygiad hanes celf y Gorllewin:

Avant-Garde Cymraeg

Gellir gweld elfennau o syniadaeth avant-garde mewn diwylliant Gymraeg mewn sawl maes. Gall hyn gynnwys cerddoriaeth a pherfformiadau'r grŵp pop o'r 1980-90au, Traddodiad Ofnus gyda Gareth Potter a Mark Lugg neu waith y cwmni theatr Brith Gof. Roedd elfen avant-gard yn nofel Jerry Hunter, Ebargofiant (Gwasg y Lolfa, 2014).

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. Matei Calinescu, The Five Faces of Modernity: Modernism, Avant-Garde, Decadence, Kitsch, Postmodernism (Durham: Duke University Press, 1987), [angen y dudalen].
  2. http://hgar-srv3.bu.edu/collections/partisan-review/search/detail?id=283920
  3. 3.0 3.1 "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-09-29. Cyrchwyd 2018-08-30.
  4. Larry Sitsky, Music of the Twentieth-Century Avant-Garde: A Biocritical Sourcebook (Westport, Conn: Greenwood Press, 2002)