Neidio i'r cynnwys

Brythoniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: xmf:ბრიტეფი
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 24 golygiad yn y canol gan 15 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
{{Y Celtiaid}}Roedd y '''Brythoniaid''' (neu'r '''Brutaniaid''' a hefyd '''Brython''' fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw yn [[ynys Prydain]] i'r de o [[Ucheldiroedd yr Alban]] cyn goresgyniad [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|y Rhufeiniaid]]. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid maen' nhw'n defnyddio termau fel "[[Y Celtiaid|Celtiaid]]" neu "Brythoniaid Rhufeinig" gan amlaf.
{{Brythoniaid}}
{{Nodyn:Teyrnasoedd Cym}}
Yr oedd y '''Brythoniaid''' (neu'r '''Brutaniaid''' a hefyd '''Brython''' fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw yn [[ynys Prydain]] i'r de o [[Ucheldiroedd yr Alban]] cyn goresgyniad [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|y Rhufeiniaid]]. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid - maen' nhw'n defnyddio termau fel "[[Y Celtiaid|Celtiaid]]" neu "''Romano-British''" gan amlaf.


Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn [[410]] [[OC]] roedd [[Lladin]], iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y [[Brythoneg|Frythoneg]] ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd - ysgrifau am hanes a dirywiad tybiedig y genedl gan y mynach [[Gildas]], canu [[Taliesin]] ac [[Aneirin]] yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini - yn arwain at gychwyn [[llenyddiaeth Gymraeg]].
Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn [[410]] [[OC]] roedd [[Lladin]], iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y [[Brythoneg|Frythoneg]] ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd ysgrifau am hanes a dirywiad tybiedig y genedl gan y mynach [[Gildas]], canu [[Taliesin]] ac [[Aneirin]] yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini yn arwain at gychwyn [[llenyddiaeth Gymraeg]].


Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.
Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.


Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr yn [[Llydaw]] (fel y tyst yr enw ''Breton'') a'r Cernywiaid yng [[Cernyw|Nghernyw]], ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr [[Hen Ogledd]]. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl [[Macsen Wledig]] a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn [[Lloegr]] - a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar. <font color="#000000">
Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr yn [[Llydaw]] (fel y tyst yr enw ''Breton'') a'r Cernywiaid yng [[Cernyw|Nghernyw]], ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr [[Hen Ogledd]]. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl [[Macsen Wledig]] a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn [[Lloegr]] a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.


{{Clirio}}
==Llyfryddiaeth==

== Hanes ==<!--Peidiwch ychwanegu cynnwys heb gyfeiriad i mewn i baragraffau gyda chyfeiriad os gwelwch yn dda. Yn gyffredinol, defnyddiwch gyfeiriad lle'n bosib os gwelwch yn dda.-->
=== Brythoniaid cynnar ===
{{Brythoniaid}}
Bu mewnfudiad Celtaidd i dde Prydain tua 1000-875 CC a all fod yn gyfrifol yn lledaeniad ieithoedd Celtaidd cynnar yn y cyfnod.<ref>{{Cite web|url=https://www.nature.com/articles/s41586-021-04287-4.epdf?sharing_token=hdLVUJXI1bsCBiB-8_X3fdRgN0jAjWel9jnR3ZoTv0PBEMt6aQZuFBqIW4mI9InPLfo2Iq0k1n38cbV7_p9SB0kUSU_29uCEC0GX5vY9_HvVWSn9FTsp3JJrnGwXpLvdBm5sk3tVSCLrCtUlC-2RpiYiZQ77j2KDPRqbmrUT3oB12qFf__IOoakSUGJY1Z61wDKIH0mB1hDRFmJiY2WXFIbSvYqJptqtxvs9wYQH_FM%3D&tracking_referrer=www.bbc.co.uk|title=Large-scale migration into Britain during the Middle to Late Bronze Age|year=2021|origyear=2020|publisher=Nature}}</ref> Yn 55 a 54 CC, glaniodd [[Iŵl Cesar]] ym Mhrydain a theithiodd drwy'r de-ddwyrain yn unig. Gwelodd debygiaethau rhwng Celtiaid Prydain a Cheltiaid [[Gâl]] ond roedd rhai pethau yn unigryw am y Celtiaid [[Brythoniaid|Brythonaidd]] gan gynnwys peintio'i hunain gyda [[Llysiau lliw|glaslys]] a'u defnydd parhaol o'r cerbyd (''chariot'') mewn rhyfel.<ref name=":12">{{Cite book|title=An atlas of Roman Britain|url=http://archive.org/details/atlasofromanbrit0000jone|publisher=Cambridge, Mass., USA : Blackwell|date=1990|isbn=978-0-631-13791-7|others=Internet Archive|first=Barri|last=Jones|pages=42}}</ref>
[[Delwedd:CymruLlwythi.PNG|chwith|bawd|176x176px|Map bras o lwythau Cymru, ~48 OC]]
Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniaid tua 90 mlynedd yn ddiweddarach yn 43 OC, ac anfonwyd byddin o 40,000 i Brydain yn 48 OC.<ref name=":022">{{Cite book|title=The Story of Wales|url=https://books.google.co.uk/books/about/The_Story_of_Wales.html?id=lhjzWWxL4JgC&redir_esc=y|publisher=BBC Books|date=2013|isbn=978-1-84990-373-8|language=en|first=Jon|last=Gower|pages=37-52}}</ref> Rhoddir darlun gwahanol o'r Brythoniaid yn y cyfnod hwn gan yr ymerawdwr [[Claudius]]. Daeth y Rhufeiniaid i adnabod y llwythau Prydain yn ehangach a disgrifir rheolaeth mwy canolog ohonynt gan gynnwys brenhinoedd. Awgrymir yr awdur Barri Jones mai conffederasiwn o lwythau Celtaidd a fodolodd yng Nghymru rhwng y [[Cornovii|Cornoficiaid]], y [[Demetae|Demetiaid]], yr [[Ordoficiaid]] a'r [[Silwriaid]].<ref name=":12" /> Mae'n bosib yr ysgogwyd Rhufain i oresgyn Cymru er mwyn sicrhau cyfoeth ei chyfoeth mwynol.<ref>{{Cite book|title=An atlas of Roman Britain|url=http://archive.org/details/atlasofromanbrit0000jone|publisher=Cambridge, Mass., USA : Blackwell|date=1990|isbn=978-0-631-13791-7|others=Internet Archive|first=Barri|last=Jones|pages=61, 179}}</ref>[[Delwedd:Caradog_(5227657)_post.png|bawd|232x232px|Llun o [[Caradog]], arweinydd Celtaidd a ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid]]Ar ôl gwrthwynebu'r Rhufeiniaid fel arweinydd y [[Catuvellauni]], ffodd [[Caradog]] i'r gorllewin lle arweiniodd y Silwriaid a'r Ordoficiad yn erbyn y Rhufeiniaid. Daliwyd Caradog a chymerwyd ef i Rufain yn 51 OC.<ref>{{Cite book|title=The Celts: Bronze Age to New Age|url=https://books.google.com/books?id=VHMABAAAQBAJ&newbks=0&hl=cy|publisher=Routledge|date=2014-07-10|isbn=978-1-317-87017-3|language=en|first=John|last=Haywood|pages=73-76}}</ref><ref>{{Cite web|title=Cornelius Tacitus, The Annals, BOOK XII, chapter 33|url=https://www.perseus.tufts.edu/hopper/text?doc=Tac.+Ann.+12.33&redirect=true|website=www.perseus.tufts.edu|access-date=2024-06-01}}</ref> Daliwyd [[Ynys Môn]], cadarnle [[Derwydd|Derwyddon]] yr Ordoficiaid yn 61 OC a thorrwyd coed derw'r derwyddon. Gadawodd y gatrawd Rufeinig i ymladd yn erbyn [[Buddug (Boudica)]] ond fe oresgynnwyd yr ynys eto yn 78 OC. Parhaodd y Silwriaid i ymladd gyda thactegau [[Guerilla|''guerilla'']] tan yr un cyfnod, 74-78 OC. Ar ei hanterth tua 70 OC roedd tua 30,00 o filwyr Rhufeinig yng Nghymru, ond roeddent yn cynnwys llwythau [[Nervii]], Vettones a'r [[Astwriaid]].<ref name=":022" /> Ni orchfygwyd Prydain yn drylwyr tan 84 OC.<ref>{{Cite book|title=A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time|url=https://books.google.co.uk/books?id=LAspAAAAYAAJ&newbks=0&printsec=frontcover&dq=oldest+church+in+wales&hl=cy&source=newbks_fb&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false|publisher=E. Stock|date=1894|language=en|first=William|last=Hughes|pages=447}}</ref>
[[Delwedd:Romans_murdering_Druids_and_burning_their_groves_cropped.jpg|chwith|bawd|237x237px|Darlun gyfoes o Rufeiniaid yn lladd [[Derwydd|derwyddon]] ar [[Ynys Môn]]]]
Erbyn 120 OC creodd y Silwriaid Senedd Lwythol yng [[Caer-went|Nghaer-went]] fel canolbwynt "''civitas''", gwladwriaeth ddinesig a ddefnyddiodd system ariannol Rufeinig. Fe ddaeth [[Caerfyrddin]] yn ganolbwynt i'r [[Demetae]] ond fe barhaodd i'r Ordoficiad wrthwynebu'r Rhufeiniaid yn y 3g a'r 4g ac mae eu tiroedd yn wag ar fapiau Rhufeinig, er gwaethaf presenoldeb milwyr.<ref name=":022" /> Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer lleng [[Caerllion]] a safle milwrol a ddatblygwyd fel tref Rufeinig yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]].<ref>{{Cite book|title=An atlas of Roman Britain|url=http://archive.org/details/atlasofromanbrit0000jone|publisher=Cambridge, Mass., USA : Blackwell|date=1990|isbn=978-0-631-13791-7|others=Internet Archive|first=Barri|last=Jones|pages=21}}</ref>

Dywed [[Gwyn Alf Williams]] y ganwyd Cymru yn 383 pan adawodd Macsen Gymru sy'n ymddangos yn y gân [[Yma o Hyd (cân)|Yma o Hyd]]; ond mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn anghytuno â hyn. Erbyn 393, dad-filwriwyd Cymru oherwydd roedd angen mwy o filwyr gan y Rhufeiniaid yn [[Gâl]] ac erbyn 410 gadawodd y catrodau Rhufeinig gan adael dim ond tasgfeistri ar ôl i "fflangellu ysgwyddau'r brodorion" yn ôl [[Gildas]]. Erbyn 400 cymysgwyd llawer o Ladin gyda'r [[Brythoneg|Frythoneg]] ac fe gyfunwyd y traddodiadau a diwylliant Celtaidd gyda rhai Rhufeinig.<ref name=":022" />{{Clirio}}

=== Oes y Seintiau ===
{{Multiple image|align=right|total_width=360|image1=Llanbadrig Church2.JPG|caption1=Eglwys Llanbadrig|image2=Former Gravesite King Arthur (GlastonburyAbbey).jpg|caption2=Bedd gwreiddiol [[Y Brenin Arthur|Arthur]], Glastonbury}}<!--Peidiwch ychwanegu cynnwys heb gyfeiriad i mewn i baragraffau gyda chyfeiriad os gwelwch yn dda. Yn gyffredinol, defnyddiwch gyfeiriad lle'n bosib os gwelwch yn dda.-->

[[Derwyddiaeth]] oedd crefydd y Brythoniaid ond tystiodd awduron y cyfnod bod eglwysi Cristnogol ymysg y Celtiaid erbyn 169 OC; fod Brythoniaid wedi dod yn Gristnogion erbyn 208 ac yn 314 OC roedd tri esgob o Frythoniaid yng Nghyngor Arles.<ref>{{Cite book|title=Penny Cyclopaedia of the Society for the Diffusion of Useful Knowledge|url=https://books.google.co.uk/books?id=w8dPAAAAMAAJ&q=pilgrimage+to+st+davids&pg=RA1-PA317&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false|publisher=C. Knight|date=1837|language=en|pages=2-17}}</ref> Sefydlwyd Eglwys annibynnol Gymreig/Brythonaidd cyn [[Eglwys Rufain]] ac [[Eglwys Loegr]] ac fe barhaodd i fod yn hollol annibynnol yn y cyfnod hwn.<ref>{{Cite web|title=Cambrian quarterly magazine and Celtic repertory {{!}} No. 20 - October 1 - 1833 {{!}} 1833 {{!}} Welsh Journals - The National Library of Wales|url=https://journals.library.wales/view/2070008/2119765/108|website=journals.library.wales|access-date=2024-05-27|language=en|pages=580-581}}</ref>

Yn 440 OC dywed i [[Sant Padrig]] sefydlu eglwys yn [[Llanbadrig]] yn Ynys Môn ac yn 470 eglwys lle sefir [[Eglwys Tyddewi]] heddiw.<ref>{{Cite book|title=A guide through North Wales, including Anglesey, Caernarvonshire, Denbighshire, Flintshire ... with a notice of the geology of the country, by A.C. Ramsay|url=https://books.google.com/books?id=M7YHAAAAQAAJ&newbks=0&hl=cy|date=1860|language=en|first=William|last=Cathrall|pages=190}}</ref><ref>{{Cite book|title=A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time|url=https://books.google.co.uk/books?id=LAspAAAAYAAJ&newbks=0&printsec=frontcover&dq=oldest+church+in+wales&hl=cy&source=newbks_fb&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false|publisher=E. Stock|date=1894|language=en|first=William|last=Hughes}}</ref> Dywed [[Nennius]] i'r [[Brenin Arthur]] cael ei arwisgo ag arwyddlun brenhinol gan Dyfrig, esgob Llandaf yng [[Caerllion|Nghaerllion]] yn 517 OC cyn arwain y Brythoniaid i ryfel yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid. Claddwyd ef yn Ynys Wydrin, Glastonbury, dan reolaeth y Brythoniaid ar y pryd.<ref>{{Cite book|title=A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time|url=https://books.google.co.uk/books?id=LAspAAAAYAAJ&newbks=0&printsec=frontcover&dq=oldest+church+in+wales&hl=cy&source=newbks_fb&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false|publisher=E. Stock|date=1894|language=en|first=William|last=Hughes|pages=62-63}}</ref> Yn ôl [[Rhygyfarch ap Sulien]], gwnaed [[Dewi Sant]] yn Archesgob metropolitan Prydain a'r Brythoniaid yn Synod Brefi ([[Llanddewi Brefi]]).<ref>{{Cite book|title=Life of St. David [microform]|url=http://archive.org/details/MN5136ucmf_5|publisher=London : Society for Promoting Christian Knowledge; New York, Macmillan|date=1923|others=Internet Archive|first=Arthur W. (Arthur Wade)|last=Wade-Evans|pages=24-27, 32}}</ref>{{Clirio}}

=== Teyrnasoedd cynnar Cymru ===
{{prif|Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|}}<!--Peidiwch ychwanegu cynnwys heb gyfeiriad i mewn i baragraffau gyda chyfeiriad os gwelwch yn dda. Yn gyffredinol, defnyddiwch gyfeiriad lle'n bosib os gwelwch yn dda.-->{{Teyrnasoedd Cym}}
Dechreuodd y cyfnod Eingl-Sacsonaidd ym Mhrydain tua'r 5g, ac ar yr un pryd ffurfiwyd teyrnasoedd yng Nghymru megis [[Teyrnas Powys|Powys]], [[Ystrad Tywi]], [[Teyrnas Gwent|Gwent]], [[Teyrnas Dyfed|Dyfed]], [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]], [[Teyrnas Ceredigion|Ceredigion]], a [[Teyrnas Brycheiniog|Brycheiniog]]. Yn y 5g symudodd [[Cunedda]] o [[Moryd Forth|Foryd Forth]] i Wynedd a gyrru setlwyr Gwyddelig o [[Pen Llyn|Ben Llŷn]].<ref name=":2">{{Cite book|title=The Story of Wales|url=https://books.google.co.uk/books/about/The_Story_of_Wales.html?id=lhjzWWxL4JgC&redir_esc=y|publisher=BBC Books|date=2013|isbn=978-1-84990-373-8|language=en|first=Jon|last=Gower|pages=53-66}}</ref>

Gellir cysylltu'r teyrnasoedd Cymreig gyda thiroedd y llwythau a barhaodd trwy gydol y cyfnod Rhufeinig; Gwynedd gyda'r Ordoficiaid; Powys gyda'r [[Cornovii|Cornoficiaid]]; Gwent a Glywysing gyda'r Silwriaid; a Dyfed a Deheubarth gyda'r Demetiaid. Ar ôl i Cunedda fudo i lawr o deyrnas [[Gododdin (teyrnas)|Gododdin]], cysylltwyd ei fab Ceredig gyda'r deyrnas Ceredigion a'i fab Meirion gyda Meirionydd. Dywed mae un o deyrn cynnar Glywysing (a ranodd yn hwyrach i Morgannwg, Gwynllyw a Gwent) oedd [[Emrys Wledig]] ac mai [[Gwrtheyrn]] a sefydlodd [[Gwerthrynion]] (Rhwng Gwy a Hafren).<ref>{{Cite book|title=The Legal History of Wales|last=Watkin|first=Thomas|publisher=Gwasg Prifysgol Cymru|year=2007|pages=32-35}}</ref>

{{Hanes Cymru}}

Gwahanwyd y Cymry a'r [[Cernywiaid]] ar ôl brwydr ger [[Dyrham]] yn 577 OC. Curwyd [[Rheged]] a [[Gododdin (teyrnas)|Manaw Gododdin]] yn yr [[Yr Hen Ogledd]].<ref name=":2" /> Dywed i [[Brwydr Caer|Frwydr Caer]] yn 616 OC dorri'r cysylltiad tir rhwng Brythoniaid yr Hen Ogledd ([[Cumbria]] a gogledd ddwyrain Lloegr) a Chymru.<ref>{{Cite book|title=The North-south Divide: The Origins of Northern Consciousness in England|url=https://books.google.com/books?id=LvbBAAAAIAAJ&newbks=0&hl=cy|publisher=Manchester University Press|date=1994|isbn=978-0-7190-3804-4|language=en|first=Helen M.|last=Jewell|pages=18}}</ref> Llwyddodd teyrnas [[Ystrad Clud]] i amddiffyn ei hannibyniaeth tan yr 11g hwyr. Yn y cyfnod hwn, roedd y bardd [[Aneirin]] yn byw ym mhrifddinas teyrnas Manaw Gododdin sef [[Caeredin|Din Eidyn (Caeredin)]]. Ysgrifennodd y gerdd enwog, [[y Gododdin]], yn sôn am lwyth y Gododdin yn yr Hen Ogledd yn brwydro yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn y 590au:<ref name=":2" />{{Dyfyniad|Gwyr a aeth Gatraeth oedd fraeth eu llu

Glasfeydd eu hancwyn a gwenwyn fu

Trichant mewn peiriant yn catau

Ac wedi elwch tawelwch fu...}}
Fe lwyddodd Powys i amddiffyn ei thiroedd rhag teyrnas Eingl-Sacsonaidd [[Mersia]] ac fe godwyd [[Croes Eliseg]] gan [[Cyngen ap Cadell]] i goffáu ymdrechion [[Elisedd ap Gwylog]] (ei daid), "Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân". Yn yr 8g, fe gododd Aethelbald, brenin Mersia, [[Clawdd Wat|Glawdd Wat]] ac yna cododd ei olynydd Offa, [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]] i gadw Brythoniaid Powys allan.<ref name=":2" />

== Llyfryddiaeth ==
*Geraint Bowen (gol.), ''Y Gwareiddiad Celtaidd'' (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
*Geraint Bowen (gol.), ''Y Gwareiddiad Celtaidd'' (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
*Wendy Davies, ''Wales in the Early Middle Ages'' (Leicester, 1982)
*Wendy Davies, ''Wales in the Early Middle Ages'' (Leicester, 1982)
Llinell 15: Llinell 50:
*Christopher Snyder, ''The Britons'' (Blackwell, 2003)
*Christopher Snyder, ''The Britons'' (Blackwell, 2003)


==Gweler hefyd==
== Gweler hefyd ==
*[[Llwythau Celtaidd Cymru]]
*[[Llwythau Celtaidd Cymru]]
*[[Yr Hen Ogledd]]
*[[Yr Hen Ogledd]]
*[[Ynys Brydain]]
*[[Ynys Brydain]]


==Cyfeiriadau==
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}


Llinell 29: Llinell 64:
[[Categori:Pobloedd hynafol]]
[[Categori:Pobloedd hynafol]]
[[Categori:Y Celtiaid]]
[[Categori:Y Celtiaid]]

[[be:Брыты]]
[[bg:Брити]]
[[br:Brezhoned]]
[[ca:Britans]]
[[en:Britons (historical)]]
[[eo:Britonoj]]
[[es:Britanos]]
[[fr:Bretons insulaires]]
[[gl:Bretóns]]
[[hr:Briti]]
[[hu:Britonok]]
[[id:Suku Briton]]
[[is:Fornbretar]]
[[it:Britanni]]
[[ja:ブリトン]]
[[ka:ბრიტები]]
[[kk:Бриттер]]
[[ko:브리튼족]]
[[la:Britanni]]
[[lt:Britai (keltai)]]
[[no:Britonere]]
[[pl:Brytowie]]
[[ru:Бритты]]
[[sh:Briti]]
[[uk:Брити]]
[[xmf:ბრიტეფი]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 23:13, 19 Awst 2024

Roedd y Brythoniaid (neu'r Brutaniaid a hefyd Brython fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw yn ynys Prydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid – maen' nhw'n defnyddio termau fel "Celtiaid" neu "Brythoniaid Rhufeinig" gan amlaf.

Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn 410 OC roedd Lladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y Frythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd – ysgrifau am hanes a dirywiad tybiedig y genedl gan y mynach Gildas, canu Taliesin ac Aneirin yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini – yn arwain at gychwyn llenyddiaeth Gymraeg.

Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.

Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr yn Llydaw (fel y tyst yr enw Breton) a'r Cernywiaid yng Nghernyw, ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl Macsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn Lloegr – a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.

Brythoniaid cynnar

[golygu | golygu cod]
Tiriogaethau Prydain 500-700

Bu mewnfudiad Celtaidd i dde Prydain tua 1000-875 CC a all fod yn gyfrifol yn lledaeniad ieithoedd Celtaidd cynnar yn y cyfnod.[1] Yn 55 a 54 CC, glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain a theithiodd drwy'r de-ddwyrain yn unig. Gwelodd debygiaethau rhwng Celtiaid Prydain a Cheltiaid Gâl ond roedd rhai pethau yn unigryw am y Celtiaid Brythonaidd gan gynnwys peintio'i hunain gyda glaslys a'u defnydd parhaol o'r cerbyd (chariot) mewn rhyfel.[2]

Map bras o lwythau Cymru, ~48 OC

Dechreuodd goresgyniad y Rhufeiniaid tua 90 mlynedd yn ddiweddarach yn 43 OC, ac anfonwyd byddin o 40,000 i Brydain yn 48 OC.[3] Rhoddir darlun gwahanol o'r Brythoniaid yn y cyfnod hwn gan yr ymerawdwr Claudius. Daeth y Rhufeiniaid i adnabod y llwythau Prydain yn ehangach a disgrifir rheolaeth mwy canolog ohonynt gan gynnwys brenhinoedd. Awgrymir yr awdur Barri Jones mai conffederasiwn o lwythau Celtaidd a fodolodd yng Nghymru rhwng y Cornoficiaid, y Demetiaid, yr Ordoficiaid a'r Silwriaid.[2] Mae'n bosib yr ysgogwyd Rhufain i oresgyn Cymru er mwyn sicrhau cyfoeth ei chyfoeth mwynol.[4]

Llun o Caradog, arweinydd Celtaidd a ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid

Ar ôl gwrthwynebu'r Rhufeiniaid fel arweinydd y Catuvellauni, ffodd Caradog i'r gorllewin lle arweiniodd y Silwriaid a'r Ordoficiad yn erbyn y Rhufeiniaid. Daliwyd Caradog a chymerwyd ef i Rufain yn 51 OC.[5][6] Daliwyd Ynys Môn, cadarnle Derwyddon yr Ordoficiaid yn 61 OC a thorrwyd coed derw'r derwyddon. Gadawodd y gatrawd Rufeinig i ymladd yn erbyn Buddug (Boudica) ond fe oresgynnwyd yr ynys eto yn 78 OC. Parhaodd y Silwriaid i ymladd gyda thactegau guerilla tan yr un cyfnod, 74-78 OC. Ar ei hanterth tua 70 OC roedd tua 30,00 o filwyr Rhufeinig yng Nghymru, ond roeddent yn cynnwys llwythau Nervii, Vettones a'r Astwriaid.[3] Ni orchfygwyd Prydain yn drylwyr tan 84 OC.[7]

Darlun gyfoes o Rufeiniaid yn lladd derwyddon ar Ynys Môn

Erbyn 120 OC creodd y Silwriaid Senedd Lwythol yng Nghaer-went fel canolbwynt "civitas", gwladwriaeth ddinesig a ddefnyddiodd system ariannol Rufeinig. Fe ddaeth Caerfyrddin yn ganolbwynt i'r Demetae ond fe barhaodd i'r Ordoficiad wrthwynebu'r Rhufeiniaid yn y 3g a'r 4g ac mae eu tiroedd yn wag ar fapiau Rhufeinig, er gwaethaf presenoldeb milwyr.[3] Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer lleng Caerllion a safle milwrol a ddatblygwyd fel tref Rufeinig yng Nghaerfyrddin.[8]

Dywed Gwyn Alf Williams y ganwyd Cymru yn 383 pan adawodd Macsen Gymru sy'n ymddangos yn y gân Yma o Hyd; ond mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn anghytuno â hyn. Erbyn 393, dad-filwriwyd Cymru oherwydd roedd angen mwy o filwyr gan y Rhufeiniaid yn Gâl ac erbyn 410 gadawodd y catrodau Rhufeinig gan adael dim ond tasgfeistri ar ôl i "fflangellu ysgwyddau'r brodorion" yn ôl Gildas. Erbyn 400 cymysgwyd llawer o Ladin gyda'r Frythoneg ac fe gyfunwyd y traddodiadau a diwylliant Celtaidd gyda rhai Rhufeinig.[3]

Oes y Seintiau

[golygu | golygu cod]
Eglwys Llanbadrig
Bedd gwreiddiol Arthur, Glastonbury

Derwyddiaeth oedd crefydd y Brythoniaid ond tystiodd awduron y cyfnod bod eglwysi Cristnogol ymysg y Celtiaid erbyn 169 OC; fod Brythoniaid wedi dod yn Gristnogion erbyn 208 ac yn 314 OC roedd tri esgob o Frythoniaid yng Nghyngor Arles.[9] Sefydlwyd Eglwys annibynnol Gymreig/Brythonaidd cyn Eglwys Rufain ac Eglwys Loegr ac fe barhaodd i fod yn hollol annibynnol yn y cyfnod hwn.[10]

Yn 440 OC dywed i Sant Padrig sefydlu eglwys yn Llanbadrig yn Ynys Môn ac yn 470 eglwys lle sefir Eglwys Tyddewi heddiw.[11][12] Dywed Nennius i'r Brenin Arthur cael ei arwisgo ag arwyddlun brenhinol gan Dyfrig, esgob Llandaf yng Nghaerllion yn 517 OC cyn arwain y Brythoniaid i ryfel yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid. Claddwyd ef yn Ynys Wydrin, Glastonbury, dan reolaeth y Brythoniaid ar y pryd.[13] Yn ôl Rhygyfarch ap Sulien, gwnaed Dewi Sant yn Archesgob metropolitan Prydain a'r Brythoniaid yn Synod Brefi (Llanddewi Brefi).[14]

Teyrnasoedd cynnar Cymru

[golygu | golygu cod]
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Dechreuodd y cyfnod Eingl-Sacsonaidd ym Mhrydain tua'r 5g, ac ar yr un pryd ffurfiwyd teyrnasoedd yng Nghymru megis Powys, Ystrad Tywi, Gwent, Dyfed, Gwynedd, Morgannwg, Ceredigion, a Brycheiniog. Yn y 5g symudodd Cunedda o Foryd Forth i Wynedd a gyrru setlwyr Gwyddelig o Ben Llŷn.[15]

Gellir cysylltu'r teyrnasoedd Cymreig gyda thiroedd y llwythau a barhaodd trwy gydol y cyfnod Rhufeinig; Gwynedd gyda'r Ordoficiaid; Powys gyda'r Cornoficiaid; Gwent a Glywysing gyda'r Silwriaid; a Dyfed a Deheubarth gyda'r Demetiaid. Ar ôl i Cunedda fudo i lawr o deyrnas Gododdin, cysylltwyd ei fab Ceredig gyda'r deyrnas Ceredigion a'i fab Meirion gyda Meirionydd. Dywed mae un o deyrn cynnar Glywysing (a ranodd yn hwyrach i Morgannwg, Gwynllyw a Gwent) oedd Emrys Wledig ac mai Gwrtheyrn a sefydlodd Gwerthrynion (Rhwng Gwy a Hafren).[16]

Gwahanwyd y Cymry a'r Cernywiaid ar ôl brwydr ger Dyrham yn 577 OC. Curwyd Rheged a Manaw Gododdin yn yr Yr Hen Ogledd.[15] Dywed i Frwydr Caer yn 616 OC dorri'r cysylltiad tir rhwng Brythoniaid yr Hen Ogledd (Cumbria a gogledd ddwyrain Lloegr) a Chymru.[17] Llwyddodd teyrnas Ystrad Clud i amddiffyn ei hannibyniaeth tan yr 11g hwyr. Yn y cyfnod hwn, roedd y bardd Aneirin yn byw ym mhrifddinas teyrnas Manaw Gododdin sef Din Eidyn (Caeredin). Ysgrifennodd y gerdd enwog, y Gododdin, yn sôn am lwyth y Gododdin yn yr Hen Ogledd yn brwydro yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn y 590au:[15]

Gwyr a aeth Gatraeth oedd fraeth eu llu

Glasfeydd eu hancwyn a gwenwyn fu

Trichant mewn peiriant yn catau

Ac wedi elwch tawelwch fu...

Fe lwyddodd Powys i amddiffyn ei thiroedd rhag teyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia ac fe godwyd Croes Eliseg gan Cyngen ap Cadell i goffáu ymdrechion Elisedd ap Gwylog (ei daid), "Yr Eliseg hwnnw a gasglodd ynghyd etifeddiaeth Powys . . . allan o afael yr Eingl â'i gleddyf ac â thân". Yn yr 8g, fe gododd Aethelbald, brenin Mersia, Glawdd Wat ac yna cododd ei olynydd Offa, Glawdd Offa i gadw Brythoniaid Powys allan.[15]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Geraint Bowen (gol.), Y Gwareiddiad Celtaidd (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
  • John Morris, The Age of Arthur (Llundain, 1973)
  • Christopher Snyder, The Britons (Blackwell, 2003)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Large-scale migration into Britain during the Middle to Late Bronze Age". Nature. 2021 [2020].
  2. 2.0 2.1 Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. t. 42. ISBN 978-0-631-13791-7.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 37–52. ISBN 978-1-84990-373-8.
  4. Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. tt. 61, 179. ISBN 978-0-631-13791-7.
  5. Haywood, John (2014-07-10). The Celts: Bronze Age to New Age (yn Saesneg). Routledge. tt. 73–76. ISBN 978-1-317-87017-3.
  6. "Cornelius Tacitus, The Annals, BOOK XII, chapter 33". www.perseus.tufts.edu. Cyrchwyd 2024-06-01.
  7. Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. t. 447.
  8. Jones, Barri (1990). An atlas of Roman Britain. Internet Archive. Cambridge, Mass., USA : Blackwell. t. 21. ISBN 978-0-631-13791-7.
  9. Penny Cyclopaedia of the Society for the Diffusion of Useful Knowledge (yn Saesneg). C. Knight. 1837. tt. 2–17.
  10. "Cambrian quarterly magazine and Celtic repertory | No. 20 - October 1 - 1833 | 1833 | Welsh Journals - The National Library of Wales". journals.library.wales (yn Saesneg). tt. 580–581. Cyrchwyd 2024-05-27.
  11. Cathrall, William (1860). A guide through North Wales, including Anglesey, Caernarvonshire, Denbighshire, Flintshire ... with a notice of the geology of the country, by A.C. Ramsay (yn Saesneg). t. 190.
  12. Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock.
  13. Hughes, William (1894). A History of the Church of the Cymry: From the Earliest Period to the Present Time (yn Saesneg). E. Stock. tt. 62–63.
  14. Wade-Evans, Arthur W. (Arthur Wade) (1923). Life of St. David [microform]. Internet Archive. London : Society for Promoting Christian Knowledge; New York, Macmillan. tt. 24–27, 32.
  15. 15.0 15.1 15.2 15.3 Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 53–66. ISBN 978-1-84990-373-8.
  16. Watkin, Thomas (2007). The Legal History of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 32–35.
  17. Jewell, Helen M. (1994). The North-south Divide: The Origins of Northern Consciousness in England (yn Saesneg). Manchester University Press. t. 18. ISBN 978-0-7190-3804-4.