Gwaith llenyddol yw traethawd (lluosog: traethodau) a ysgrifennir o safbwynt yr awdur. Mae natur, strwythur a chynnwys traethodau yn amrywio'n eang, ac maent wedi bod yn bwysig ym meysydd beirniadaeth lenyddol, gwleidyddiaeth, sylwebaeth gymdeithasol, dadlau, cofiannau, a barnau personol. Mewn nifer o wledydd mae traethodau yn rhan allweddol o addysg.

Traethodau Michel de Montaigne.

Geirdarddiad

golygu

Gair benthyg o'r Lladin yw "traethawd" a dardda o'r gair "tractātus"[1], sydd yn golygu, yn ei ystyr eglwysig, 'bregeth' neu 'homili'[2]

Ffynonellau

golygu
  1. Lewis, Henry. 1943. Yr Elfen Ladin Yn Yr Iaith Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.47
  2. http://www.ultralingua.com/onlinedictionary/dictionary#src_lang=Latin&dest_lang=English&query=tract%C4%81tus

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am traethawd
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.