Rhyfeloedd Groeg a Phersia
Roedd Rhyfeloedd Groeg a Phersia yn gyfres o ryfeloedd rhwng nifer o wladwriaethau Groegaidd, yn enwedig Athen a Sparta, ac Ymerodraeth Persia. Bu ymladd rhwng 499 CC a 448 CC, ac ymosododd y Persiaid ar Wlad Groeg ddwywaith, yn 490 CC ac yn 480-479 CC. Methiant fu’r ddau ymosodiad. Y prif ffynhonnell ar gyfer y rhyfeloedd hyn yw’r hanesydd Groegaidd Herodotus.
Daeth y Persiaid i wrthdrawiad a’r Groegiaid am y tro cyntaf pan goncrwyd y Lydiaid yn Asia Leiaf gan yr Ymerodraeth Bersaidd. Roedd nifer o ddinas-wladwriaethau Groegaidd yn Ionia dan reolaeth y Lydiaid, a daethant yn awr dan reolaeth Persia. Yn 499 CC gwrthryfelodd y Groegiaid Ionaidd yn erbyn Persia. Gyrrwyd ychydig o gymorth iddynt gan y Groegiaid eraill, yn enwedig yr Atheniaid, ond methiant fu’r gwrthryfel.
Yn 490 gyrrodd Darius I, brenin Persia fyddin dan Datis ac Artaphernes gyda llynges i ymosod ar y Groegiaid, yn enwedig yr Atheniaid. Gorchfygwyd y fyddin yma gan yr Atheniaid dan Miltiades ym Mrwydr Marathon.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarch, yn 480 CC, ymosododd y Persiaid eto. Roedd Darius wedi marw erbyn hyn, a’i fab Xerxes I a arweiniodd fyddin enfawr i wneud Groeg yn rhan o’r ymerodraeth. Mae cryn ddadl ynglŷn â maint y fyddin yma; yn ôl Herodotus roedd yn cynnwys drios ddwy filiwn a hanner o wŷr. Cred rhai haneswyr fod Herodotus wedi cam-ddarllen ffynhonnell Bersaidd a bod y ffigyrau hyn ddeg gwaith yn fwy nag y dylent fod, ac mai tua 250,000 oedd maint byddin Xerxes mewn gwirionedd. Croesodd y Persiaid yr Hellespont a goresgyn gogledd Groeg, gyda nifer o’r dinas-wladwriaethau yno yn ochri gyda’r Persiaid.
Ceisiodd byddin fechan o 300 o Spartiaid a 700 o Thespiaid dan arweiniad Leonidas, brenin Sparta, atal y Persiaid yn Thermopylae, lle roedd y ffordd tua’r de yn dilyn rhimyn cul o dir rhwng y mynyddoedd a’r mor. Bu ymladd am dri diwrnod a lladdwyd nifer fawr o’r Persiaid, ond yn y diwedd lladdwyd y Groegiaid i gyd pan ddangosodd bradwr i’r Persiaid lwybr trwy’r mynyddoedd a’u galluogodd i ymosod ar y Groegwyr o’r tu cefn.
Aeth y Persiaid ymlaen tuag Athen, lle roedd dadl a ddylent ymladd y Persiaid ar y tir ynteu dibynnu ar eu llynges. Ar gyngor Themistocles, penderfynwyd gadael y ddinas a defnyddio’r llynges i ymladd y Persiaid. Cipiwyd a llosgwyd Athen gan y Persiaid, ond gorchfygwyd llynges Xerxes gan lynges Athen a’i cyngheiriaid yn Mrwydr Salamis. Dychwelodd Xerxes i Asia Leiaf, ond gadawodd Mardonius gyda byddin gref i ymladd y Groegiaid. Y flwyddyn ganlynol, gorchfygwyd a lladdwyd Mardonius gan fyddin o Roegiaid dan arweiniad Pausanias, brenin Sparta ym Mrwydr Plataea.
Parhaodd ymladd rhwng Groegiaid a Phersiaid am gyfnod, gyda’r Groegiaid yn ymosod ar feddiannau Persaidd. Y flwyddyn ganlynodd rhoddodd Sparta y gorau i’r ymladd yma, ond ffurfiwyd Cynghrair Delos dan arweiniad Athen a bu ymladd yn Thrace, Ionia, Cyprus a’r Aifft. Roedd grym cynyddol Athen yn bryder mawr i Sparta, ac aeth yn rhyfel rhyngddynt.