Margaret John

actores

Actores o Gymraes oedd Margaret John (14 Rhagfyr 19262 Chwefror 2011). Pan yn blentyn, roedd hi eisiau bod y nyrs neu'n filfeddyg ond yn hytrach aeth i astudio yn London Academy of Music and Dramatic Art.[1] Mwynhaodd John yrfa a barhaodd dros 50 mlynedd, gan ymddangos mewn rhai o raglenni teledu mwyaf poblogaidd Prydain, gan gynnwys Coronation Street, Dixon of Dock Green, Z-Cars, Doctor Who, Emmerdale, Last of the Summer Wine, Crossroads, Little Britain, a Gavin & Stacey.

Margaret John
Ganwyd14 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 2011 Edit this on Wikidata
o canser yr afu Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata

Ymddangosodd ar y teledu hefyd mewn penodau o The First Lady, The Troubleshooters, Softly, Softly, The Mike Yarwood Show, Doomwatch, Blake's 7, Secret Army, Lovejoy, My Family, High Hopes, The District Nurse, Casualty, a Doctors. Chwaraeodd hefyd ran Mrs Stone yn nrama Radio 4, Linda Smith's A Brief History of Timewasting.

Ym Medi 2009, ymddangosodd mewn ffilm fer graffig Cow, gan y cyfarwyddwr Peter Watkins Hughes, yn rhybuddio am y peryglon o decstio tra'n gyrru.[2]

Gwobrwywyd John gyda'r Wobr am Gamp Oes yn 18fed gwobrau BAFTA Cymru ar 17 Mai 2009, yng Nganolfan Mileniwm Cymru, mewn seremoni a westeiwyd gan Gethin Jones.[3]

Yn 2009 ymddangosodd John yn The Vagina Monologues. Cyn y cyhyrchiad hwn, ei pherfformiad diwethaf yn y theatr oedd Medea yn Theatr Young Vic yn Llundain yn ystod y 1980au. Perfformiodd hefyd yn y cynhyrchiad o Calendar Girls yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd o 27 Gorffennaf tan 7 Awst 2010 ac yn Venue Cymru, Llandudno o 9 Awst tan 14 Awst 2010, gan gydweithio gyda Ruth Madoc.[4]

Bu'r gŵr John yn feolinydd cyntaf gyda'r London Symphony Orchestra a perfformiodd gyda Frank Sinatra.[5]

Gwaith

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Meet: Margaret John. swansealife.co.uk.
  2.  Graphic film about dangers of texting is internet hit. Wales-online.co.uk.
  3.  Nations & Regions Awards. BAFTA.
  4.  Price (29 Ebrill 2010). Margaret John stars in Calendar Girls. Western Mail. Trinity Mirror.
  5. Proffil IMDb Margaret John
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-03. Cyrchwyd 2011-02-02.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-07. Cyrchwyd 2011-02-02.