Huw Ceredig
Actor a chenedlaetholwr o Gymro oedd Huw Ceredig, ganwyd Huw Ceredig Jones (22 Mehefin 1942 – 16 Awst 2011)[1][2] a chaiff ei adnabod yn bennaf am ddarlunio cymeriadau mewn rhaglenni teledu Cymraeg ac ambell ffilm.
Huw Ceredig | |
---|---|
Ganwyd | Huw Ceredig Jones 22 Mehefin 1942 Brynaman |
Bu farw | 16 Awst 2011 Pen-y-bont ar Ogwr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Tad | Gerallt Jones |
Mam | Elizabeth Griffiths |
Bywgraffiad
golyguGanwyd ym Mrynaman ym 1942, yn fab i'r Parchedig Gerallt Jones, ac Elizabeth Jane Griffiths,[3][4] athrawes Cymraeg. Roedd yn un o deulu Bois y Cilie,[5] ac roedd yn frawd i'r ddau wleidydd Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones, ac Arthur Morus.[6][7] Magwyd Ceredig yn Llanuwchllyn ac addysgwyd ef yng Ngholeg Llanymddyfri, un o'i athrawon yno oedd y chwaraewr a'r hyfforddwr rygbi Carwyn James. Aeth ymlaen i hyfforddi fel athro yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Cymerodd ail-forgais ar ei dŷ er mwyn prynu offerynnau ar gyfer y band newydd Cymreig Edward H. Dafis a chyflwynodd hwy i'r llwyfan am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973.[5]
Chwaraeodd gymeriad Reg Harris ar opera sebon S4C Pobol y Cwm am 29 mlynedd o 1974 hyd 2003. Chwaraeodd hefyd ran tad Rhys Ifans a Llŷr Ifans fel "Fatty Lewis" yn y ffilm gomedi dywyll Gymreig Twin Town. Bu hefyd yn actor llais gan gyfrannu at gartwnau SuperTed, ac yn ddiweddarach Meees.[1]
Roedd yn byw yn Nhrelales, ac yn briod â Margaret a roedd ganddynt ddwy ferch. Bu farw Huw Ceredig ar 16 Awst 2011 wedi salwch hir dymor. Roedd Ioan Gruffudd, a chwaraeodd ran ei fab ar Pobol y Cwm am ddeng mlynedd, yn un o'r rhai a roddodd deyrnged iddo.[8] Cynhaliwyd ei angladd yng Nghapel Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr ar 22 Awst 2011.[9]
Ffilmyddiaeth
golyguTeledu
golygu- Pobol y Cwm - Reg Harries, opera sebon (1974–2003)
- Z Cars - Det. Con. Probert, cyfres, 1 pennod (1977)
- The Life and Times of David Lloyd George - D.A. Thomas, cyfres, 1 pennod (1981)
- Ennal's Point - Len Dunce, cyfres, 4 pennod (1982)
- The District Nurse - Rowlands, cyfres, 1 pennod (1984)
- We Are Seven - Jim Powell, cyfres, 12 pennod (1989-1991)
- Teulu'r Mans - Parchedig Richard Seimons
- Rebecca's Töchter - Mordecai Thomas, cyfres, 1 pennod (1992)
- Yr Heliwr - Peter Webb, cyfres, 1 pennod (1997)
- Emmerdale - George Gibbons, opera sebon, 1 pennod (2003)
- Heartbeat - Cyril Williams, cyfres, 1 pennod (2005)
- Doctors - Kenneth Gough, cyfres, 1 pennod (2005)
- Y Pris - Rhidian Edwards, cyfres, 4 pennod (2007)
Ffilmiau
golygu- The Mouse and the Woman - Sergeant (1981)
- Giro City - Elwyn Davies (1982)
- I Fro Breuddwydion - Ffermwr, ffilm teledu (1987)
- Twin Town - Fatty Lewis (1997)
- The Edge of Love - John Patrick (2008)
Llais
golyguLlyfryddiaeth
golygu- Huw Ceredig ac Aled Islwyn (Tachwedd 2006). Cofio Pwy Ydw I: Huw Ceredig. Caerdydd: Dref Wen. ISBN 9781855967397
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Huw Ceredig wedi marw", BBC, 16 Awst 2011.
- ↑ "Huw Ceredig".
- ↑ Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru: Chwarter: Gorffennaf/Awst/Medi 1942; Enw: Huw C Jones; Cyfenw mam cyn priodi: Griffiths; Ardal cofrestru: Caerfyrddin; Cyfrol: 11a; Tudalen: 1591
- ↑ Mynegai Priodasau Lloegr a Chymru: Chwarter: Gorffennaf/Awst/Medi 1941; Enwau: Gerallt Jones ac Elizabeth J Griffiths; Ardal cofrestru: Machynlleth; Cyfrol: 11b; Tudalen: 385
- ↑ 5.0 5.1 "Cofio Huw Ceredig", Golwg 360.
- ↑ Party president with folksy touch. BBC Newyddion (5 Ebrill 2005).
- ↑ Manylion Personol. Dafydd Iwan. Adalwyd ar 17 Awst 2011.
- ↑ "Ioan Gruffudd's tribute to Pobol y Cwm's Huw Ceredig", BBC News, 17 Awst 2011.
- ↑ "Angladd yr actor Huw Ceredig", Newyddion BBC, 22 Awst 2011.