Glynllifon
Plasdy mawr a chyn ystad ger Caernarfon, Gwynedd yw Glynllifon. Roedd hen ystad Glynllifon yn perthyn i Arglwyddi Niwbwrch. Mae wedi ei leoli ger Llandwrog ar y briffordd A499, rhwng Pwllheli a Chaernarfon. Llifa Afon Llifon drwy Glynllifon gan roi iddo ei enw.
Math | gwesty mewn plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystad Glynllifon |
Lleoliad | Ystad Glynllifon, Llandwrog |
Sir | Llandwrog |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 30.5 metr |
Cyfesurynnau | 53.0733°N 4.305°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae Parc Glynllifon ar yr ystad, ac erbyn hyn mae adran amaethyddol Coleg Meirion-Dwyfor, gweithdai crefft a nifer o gyfleusterau addysgol yn cynnwys gwlau. Mae hefyd caffi a drysfa wrth y mynediad ac arddangosfeydd hanes megis peiriant pŵer stêm a gafodd ei adnewyddu gan y diweddar Fred Dibnah.[1] Cynhelir nifer o ffeiriau ym maes parcio Parc Glynllifon, yn arbennig ffair grefft a stêm.
Mae gan y parc erddi sydd o ddiddordeb hanesyddol a gwyddonol. Maen nhw wedi cael eu dynodi â statws Gerddi Hanesyddol Gradd I yn ogystal ag Ardal Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol gan CADW, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.[2]
Mae Glynllifon hefyd wedi ei ddynodi'n Ardal Arbennig Cadwraeth gan y Joint Nature Conservation Committee. Mae'n gartref i Ystlumod pedol lleiaf, Rhinolophus hipposideros. Mae'r safle 189.27 hectar yn lle magu a gaeafgwsg i tua 6% o boblogaeth Prydain o'r ystlum hwn.[3]
Ailenwi
golyguYn 2015 tynnodd y cwmni datblygu MBI o Halifax nyth cacwn am eu pennau pan gyhoeddon nhw y byddent yn newid enw'r plasty i "Wynnborn". Yn dilyn gwrthwynebiad lleol, cafwyd tro pedol.
Yn 2016 roedd y cwmni David Currie & Co, a oedd yn gyfrifol am werthu'r plasty, yn ei farchnata dan yr enw "Newborough Hall"; yn ôl Dr Simon Brooks, ysgrifennydd Dyfodol i’r Iaith, cysylltodd nifer o bobl ag ef, yn gwrthwynebu ailenwi'r Plas Glynllifon.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Attractions of Snowdonia : Glynllifon.
- ↑ Parc Glynllifon. Cyngor Sir Gwynedd.
- ↑ UK SAC site list : Glynllifon. Joint Nature Conservation Committee.
- ↑ dailypost.co.uk; adalwyd 12 Chwefror 2016