Delia Derbyshire

cyfansoddwr a aned yn 1937

Cerddor, cyfansoddwraig "musique concrète" a mathemategydd Seisnig oedd Delia Ann Derbyshire (5 Mai 1937 – 3 Gorffennaf 2001)[1] Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio'r dôn thema i gyfres y BBC, Doctor Who.[2]

Delia Derbyshire
Ganwyd5 Mai 1937 Edit this on Wikidata
Coventry Edit this on Wikidata
Bu farw3 Gorffennaf 2001 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, peiriannydd, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, electronic musician Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullcerddoriaeth electronig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.delia-derbyshire.org/ Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni yn Coventry, yn ferch i Emma (née Dawson) ac Edward Derbyshire. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Rhamadeg Barr's Hill ac yng Ngholeg Girton, Caergrawnt. Priododd David Hunter ym 1974.[3] Fe wnaethant wahanu ond byth ysgaru. Wedyn, bu’n byw gyda phartner arall, Clive Blackburn.

Bu farw yn 64 oed, o fethiant yr arennau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hodgson, Brian (7 Gorffennaf 2001). "Obituary: Delia Derbyshire". The Guardian (yn Saesneg).
  2. Wrench, Nigel (18 Gorffennaf 2008). "Lost tapes of the Dr. Who composer". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2008.
  3. Register of Marriages. Northumberland West 1. General Register Office for England and Wales. Oct–Dec 1974. p. 1761.

Dolenni allanol

golygu