Car

cerbyd i gludo teithwyr

Cerbyd ar olwynion yw car neu gar modur, a ddefnyddir er mwyn cludo teithwyr neu nwyddau, ac sy'n cludo ei fodur ei hun, i'w yrru. Mae'r rhan fwyaf o ddiffiniadau yn nodi fod ceir wedi eu cynllunio i redeg ar ffyrdd yn bennaf, a bod ganddynt hyd at wyth sedd, pedair olwyn fel rheol, a'u bod wedi'u cynhyrchu er mwyn cludo pobl yn bennaf yn hytrach na nwyddau.[1] Ond, nid yw hwn yn fanwl gywir, gan fod mathau eraill o gerbyd hefyd yn cyflawni tasgau tebyg.

Car
Mathcerbyd modur, multi-track vehicle, cerbyd ffordd Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1884 Edit this on Wikidata
Rhan oroad transport Edit this on Wikidata
Yn cynnwysinjan, steering wheel, axle, fuel tank, air filter, oxygen sensor, shock absorber, ball joint, carburetor, sedd, vehicle door, dashboard, manual transmission, fuel door, car wheel, glove compartment, windshield, automatic transmission, reduction drive, clutch, differential, drive shaft, powertrain, hood, coach, vehicle frame Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Eastshore Freeway UDA
"Velo" Karl Benz (1894) - fu'n cystadlu mewn ras geir gynnar.
Nifer y ceir yn y Byd, i bob 1000 o bobl.

Ystyrir y flwyddyn 1886 fel blwyddyn geni'r car modern, pan rhoddodd Karl Benz batent ar ei Benz Patent-Motorwagen yn yr Almaen. Yn nechrau'r 20c fodd bynnag y gwelwyd cynnydd aruthrol yn y nifer o geir a gynhyrchwyd. Un o'r rhai cyntaf i fod yn fforddiadwy ac yn boblogaidd oedd y "Model T", yn 1908, car Americanaidd a gynhyrchwyd gan y Ford Motor Company. Ac yno, yn Unol Daleithiau America y gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y ceir, gan ddisodli anifeiliaid fel dull o dynnu troliau a chertiau.

Daw'r gair "car" o'r hen air Brythoneg "Karr" a olygai "cerbyd" fel yn y gair 'cer-byd' ei hun a'r termau 'Car llusg' a 'char rhyfel' sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (1976) Pocket Oxford Dictionary. Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0198611137
  2. "Car". (etymology). Online Etymology Dictionary. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-03-06. Cyrchwyd 2008-06-02. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am gar. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Car
yn Wiciadur.