Béziers
Dinas yn département Hérault a region Languedoc-Roussillon yn ne Ffrainc yw Béziers. Saif ar afon Orb a'r Canal du Midi.
Roedd y ddinas yn un o gadarnleoedd y Cathariaid. Lladdwyd tua 20,000 ohonynt pan gipiwyd y ddinas yn 1209 yn ystod y Groesgad Albigensaidd.
Pobl enwog o Béziers
- Pierre-Paul Riquet, adeiladydd y Canal du Midi